2014 Rhif 3254 (Cy. 330)

GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU

PENSIYNAU, CYMRU

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007. Mae’r diwygiadau—

—   yn gwneud mân gywiriadau i Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“y Cynllun”) a nodir yn yr Atodlen honno;

—   yn diwygio’r Cynllun i ddarparu mynediad i gynllun pensiwn am y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2000 a 5 Ebrill 2006 yn gynwysedig, ar gyfer y personau hynny a gyflogid fel diffoddwyr tân wrth gefn yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw;

   yn cyflwyno darpariaethau newydd.

Ac eithrio fel a grybwyllir isod, mae’r Gorchymyn yn cael effaith o 1 Ebrill 2014. Mae’r pŵer i roi effaith ôl-weithredol i’r Gorchymyn wedi ei roi gan adran 34 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Mae’r diwygiadau a wneir gan baragraffau 3(5), 7(3) a 9(8)(a) o’r Atodlen i wneud mân newidiadau i’r Cynllun ac maent yn cael effaith ôl-weithredol o 1 Gorffennaf 2013.

Gwneir mân newid gan baragraff 2(2)  er mwyn sicrhau bod y rhai a ddechreuodd mewn cyflogaeth fel diffoddwyr tân cyn 6 Ebrill 2006, ac a oedd naill ai’n anghymwys i fod yn aelodau o Gynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 neu wedi dewis peidio â thalu cyfraniadau pensiwn a oedd yn ofynnol o dan y cynllun hwnnw, yn cael eu trin fel aelod-ddiffoddwyr tân o’r Cynllun pan gofrestrir hwy yn awtomatig yn y Cynllun hwnnw. Mae’r diwygiad hwn yn cael effaith ôl-weithredol o 31 Rhagfyr 2012.

Mae Rhan 2 o’r Cynllun (aelodaeth o’r Cynllun, diweddu ac ymddeol) wedi ei diwygio er mwyn galluogi diffoddwyr tân wrth gefn cymwys i ymuno â’r Cynllun o’r dyddiad y dechreuodd eu gwasanaeth neu o 1 Gorffennaf 2000 os yw’n hwyrach na’r dyddiad y dechreuodd eu gwasanaeth. Mae oedran ymddeol arferol ac oedran buddion arferol aelodau arbennig yn wahanol i’r rheini ar gyfer aelodau arferol (paragraff 2 o’r Atodlen i’r Gorchymyn).

Mae Rhan 3 o’r Cynllun (dyfarndaliadau personol) wedi ei diwygio (paragraff 3). Yn gyntaf, mae rheol 1A newydd wedi ei mewnosod, sy’n pennu o dan ba amodau y bydd aelod arbennig yn cael pensiwn cyffredin aelod arbennig; ac mae rheol 2A newydd yn pennu’r amodau ar gyfer cael dyfarndal ôl-weithredol yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd. Mae rheolau eraill yn Rhan 3 wedi eu diwygio er mwyn iddynt fod yn gymwys i aelodau arbennig.

Yn ail, gwneir cywiriad er mwyn ei gwneud yn eglur pa wasanaeth pensiynadwy a gaiff gyfrif ar gyfer y budd pensiwn ychwanegol: cynyddiad gwasanaeth hir yn rheol 7A (paragraff 3(10)(a)). Gwasanaeth gydag Awdurdod Tân ac Achub Cymreig, yn unig, a gynhwysir gan y diwygiad ac mae’n cael effaith ôl-weithredol o 1 Gorffennaf 2013.

Yn drydydd, mewnosodir rheol 7B newydd (paragraff 3(11)) sy’n estyn y budd pensiwn ychwanegol er mwyn cynnwys—

·         taliadau i wobrwyo sgiliau a chyfrifoldebau ychwanegol sydd y tu allan i ofynion dyletswyddau’r aelod-ddiffoddwr tân o dan y contract cyflogaeth ond sydd o fewn swyddogaethau ehangach y swydd;

·         unrhyw dâl ychwanegol a geir yn ystod dyrchafiad dros dro, neu tra bo’n  cyflawni dyletswyddau rôl uwch dros dro;

·         unrhyw daliad ar sail perfformiad, nad yw wedi ei gyfuno â thâl.

Bydd unrhyw daliadau mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus aelod-ddiffoddwr tân yn parhau o fewn cwmpas y budd pensiwn ychwanegol.

Mae’r diwygiadau a wneir gan baragraff 3(10)(b), (c) a (d) a pharagraff 3(11) mewn perthynas â pharagraffau (3) a (4) o’r rheol 7B newydd, yn diwygio’r dull o uwchraddio budd pensiwn ychwanegol ar gyfer y cynyddiad gwasanaeth hir (rheol 7A o Ran 3) a datblygiad proffesiynol parhaus (rheol 7B) o fynegai penodol, sef y mynegai prisiau manwerthu, i fynegai yn unol â Deddf Pensiynau (Cynnydd) 1971. Ceir darpariaeth benodol sy’n darparu y defnyddir y mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer y flwyddyn dreth 2010/2011. Mae’r diwygiadau hyn yn cael effaith o 11 Ebrill 2011 ond fel arall mae’r diwygiadau sy’n ymwneud â’r rheol 7B newydd yn cael effaith ôl-weithredol o 1 Gorffennaf 2013.

Mae Rhan 4 o’r Cynllun (pensiynau goroeswyr) wedi ei diwygio er mwyn bod yn gymwys i aelodau arbennig (paragraff 4).

Mae Rhan 5 o’r Cynllun (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth) wedi ei haddasu ar gyfer aelodau arbennig a mewnosodir rheol 1A newydd gan ddarparu ar gyfer grant marwolaeth am y cyfnod cyfyngedig (paragraff 5).

Mae Rhannau 6 (rhannu pensiwn yn sgil ysgaru), 8 (dyfarnu cwestiynau ac apelau), 9 (adolygu, atal a fforffedu dyfarndaliadau) a 10 (gwasanaeth cymhwysol a gwasanaeth pensiynadwy) o’r Cynllun wedi eu diwygio mewn cysylltiad ag aelodau arbennig. Mewnosodir rheol 2A newydd yn Rhan 10 sy’n pennu’r cyfnodau o wasanaeth y caniateir eu cronni fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig gan aelodau arbennig pan delir y cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol neu’r cyfraniadau pensiwn arbennig (paragraffau 6, 7, 8 a 9).

Mae Rhan 11 o’r Cynllun (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol) wedi ei diwygio. Mae’r diffiniad o dâl pensiynadwy wedi ei ddiwygio i gynnwys taliadau sy’n bensiynadwy o dan y budd pensiwn ychwanegol (rheol 7B newydd) ac yn darparu bod taliadau nad ydynt o fewn y diffiniad o dâl pensiynadwy yn rheol 1(1)(a) fel y’i diwygiwyd, neu fuddion pensiwn ychwanegol sy’n daladwy am wasanaeth hir neu ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus diffoddwr tân, yn aros yn bensiynadwy tra bo’r diffoddwr tân yn parhau i’w cael (paragraff 10(2)). Mae’r taliadau a drinnir fel tâl pensiynadwy terfynol wedi eu diwygio i hepgor taliadau budd pensiwn ychwanegol sy’n daladwy o fewn rheol 7B o Ran 3 (paragraff 10(3)(a)). Mae’r diwygiadau hyn yn cael effaith ôl-weithredol o 1 Gorffennaf 2013.

Mewn cysylltiad ag aelodau arbennig, mewnosodir rheol 5A newydd yn Rhan 11 sy’n darparu ar gyfer prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig a mewnosodir rheolau 6A a 6B newydd sy’n nodi’r cyfnodau talu ar gyfer gwahanol fathau o aelodau arbennig (paragraff 10(3)(b) et seq).

Mae Rhan 12 o’r Cynllun (trosglwyddiadau i mewn ac allan o’r Cynllun)  wedi ei diwygio mewn cysylltiad ag aelodau arbennig. Yn benodol, mewnosodir pennod 3A a rheol 11A newydd sy’n caniatáu i aelod gohiriedig o Gynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 sy’n ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod-ddiffoddwr tân arbennig ofyn, mewn amgylchiadau penodol, am wneud taliad gwerth trosglwyddo i aelodaeth arbennig yr aelod o’r Cynllun hwn. Mewnosodir pennod 6 a rheol 16 newydd sy’n caniatáu trosi aelodaeth o aelodaeth arbennig i aelodaeth safonol ac o aelodaeth safonol i aelodaeth arbennig. Mewnosodir rheol 17 newydd sy’n galluogi aelod safonol o’r Cynllun hwn, mewn cysylltiad â gwasanaeth y gallai’r aelod ei gyfrif fel arall yn wasanaeth pensiynadwy arbennig, sy’n ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod-ddiffoddwr tân arbennig, i drosi ei aelodaeth safonol o’r Cynllun hwn yn aelodaeth arbennig, drwy dalu’r cyfraniad pensiwn ychwanegol (paragraff 11).

Mae Rhan  13 o’r Cynllun wedi ei diwygio er mwyn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod tân ac achub yn trosglwyddo i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân swm sy’n hafal i swm y pensiwn a delir i berson pan fo’r awdurdod yn dewis peidio ag arfer ei ddisgresiwn i atal neu leihau’r rhan a ganiateir o bensiwn yr unigolyn hwnnw o dan reol 3 (atal pensiwn yn ystod cyfnod o wasanaeth fel diffoddwr tân) o Ran 9 (adolygu, atal a fforffedu dyfarndaliadau) (paragraff 12). Mae’r diwygiadau hyn yn cael effaith ôl-weithredol o 1 Gorffennaf 2013.

Mae  Atodiad ZA newydd wedi ei fewnosod sy’n darparu ar gyfer cyfrifo’r gyfradd gymudedig o bensiynau gan aelodau arbennig (paragraff 14). Mae Atodiad AB1 newydd wedi ei fewnosod sy’n darparu ar gyfer cyfrifo cyfraniadau pensiwn ar gyfer aelodau arbennig (paragraff 16). Mae Atodiad 1 hefyd wedi ei ddiwygio mewn perthynas ag aelodau arbennig (paragraff 17).

Mae diwygiadau a wneir i  Atodiad 2 (apelau i fwrdd canolwyr meddygol) yn galluogi—

·         y bwrdd i ailystyried ei benderfyniad pan fo’r partïon yn cytuno ei fod wedi gwneud camgymeriad ffeithiol perthnasol;

·         yr awdurdod i adennill rhan neu’r cyfan o dreuliau’r bwrdd pan fo’r apelydd wedi tynnu’r apêl yn ôl neu wedi gofyn am ddileu neu ohirio’r dyddiad ar gyfer cyfweliad neu archwiliad, o fewn llai na 22 diwrnod gwaith cyn y dyddiad penodedig (paragraff 18).

Mae’r diwygiadau hyn yn cael effaith ôl-weithredol o 1 Gorffennaf 2013.

Ystyriwyd Cod Asesiad Effaith Rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar gyfer Is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o’r Gorchymyn hwn.

Gellir cael copi o’r asesiad gan y Gangen Tân, Yr Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 0300 0628219).


2014 Rhif 3254 (Cy. 330)

GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU

PENSIYNAU, CYMRU

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                                 8 Rhagfyr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       10 Rhagfyr 2014

Yn dod i rym                        31 Rhagfyr 2014

Gwnaed y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 34, 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004([1]).

Cyn gwneud y Gorchymyn hwn, ac yn unol ag adran 34(5) o’r Ddeddf honno, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â’r personau hynny a oedd yn briodol yn eu barn hwy.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Rhagfyr 2014.

(3) Mae’r diwygiadau a wneir gan erthygl 2 a’r Atodlen yn cael effaith o 1 Ebrill 2014 ond mae’r darpariaethau a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl isod (ac a ddisgrifir yn yr ail golofn) yn cael effaith o’r dyddiad cyfatebol yn y drydedd golofn—

 

Y paragraff o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn

Disgrifiad

Dyddiad cael effaith

2(2)

sy’n ymwneud â rheol 1 (aelodaeth o’r cynllun) o Ran 2 o’r Cynllun

31 Rhagfyr 2012

3(5)

sy’n mewnosod rheol 2A newydd (dyfarndal ôl-weithredol yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd) yn Rhan 3 o’r Cynllun

1 Gorffennaf 2013

3(10)(a)

sy’n cymryd lle’r geiriad ym mharagraff (2) o reol 7A (buddion pensiwn ychwanegol: gwasanaeth hir)

1 Gorffennaf 2013

3(10)(b) i (d)

sy’n ymwneud â rheol 7A (buddion pensiwn ychwanegol: gwasanaeth hir) o Ran 3 (dyfarndaliadau personol) o’r Cynllun

11 Ebrill 2011

3(11)

sy’n cymryd lle rheol 7B (buddion pensiwn ychwanegol: datblygiad proffesiynol parhaus) o Ran 3 o’r Cynllun, rheol 7B (buddion pensiwn ychwanegol)

11 Ebrill 2011, mewn perthynas â pharagraff (3) o reol 7B a diffiniadau o “y dyddiad cychwyn” a “blwyddyn dreth berthnasol ddilynol” ym mharagraff (6) o reol 7B.

 

Fel arall, 1 Gorffennaf 2013

7(3)

sy’n ymwneud â rheol 5 (apelau ynghylch materion eraill) yn Rhan 8 o’r Cynllun

1 Gorffennaf 2013

9(8)(a)

sy’n ymwneud â pharagraff (5) o reol 6 o Ran 10 o’r Cynllun

1 Gorffennaf 2013

10(2)

sy’n ymwneud â rheol 1 (tâl pensiynadwy) o Ran 11 o’r Cynllun

1 Gorffennaf 2013

10(3)(a)

sy’n ymwneud â rheol 2 (tâl pensiynadwy terfynol) o Ran 11 o’r Cynllun

1 Gorffennaf 2013

12

sy’n mewnosod paragraff (11) newydd yn rheol 2 (taliadau a throsglwyddiadau i mewn i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân) o Ran 13 o’r Cynllun

1 Gorffennaf 2013

18

sy’n ymwneud ag Atodiad 2 (apelau i fwrdd canolwyr meddygol)

1 Gorffennaf 2013

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

2. Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007([2]) wedi ei diwygio yn unol â’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Darpariaethau trosiannol: trosglwyddiadau i mewn i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân

3.—(1) Nid yw’r diwygiad a wneir gan erthygl 2 a pharagraff 12 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn i reol 2 (taliadau a throsglwyddiadau i mewn i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân) o Ran 13 (Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân) yn cael effaith mewn perthynas â pherson a oedd wedi ymrwymo i gontract cyflogaeth gydag awdurdod tân ac achub cyn 1 Gorffennaf 2013.

(2) Mewn achos pan fo paragraff (1) yn gymwys, bydd rheol 2 o Ran 13 o Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru), yn y ffurf yr oedd yn cael effaith cyn 1 Gorffennaf 2013, yn parhau i gael effaith mewn perthynas â pherson o’r fath.

 

 

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

 

8 Rhagfyr 2014

 

                   YR ATODLEN        Erthygl 2

Diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

Diwygio Rhan 1 (enwi a dehongli)

1.—(1) Mae Rhan 1 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—

(a)     yn y mannau priodol mewnosoder—

ystyr “actiwari” (“actuary”) yw cymrawd o Sefydliad a Chyfadran yr Actiwariaid;”;

“ystyr “Actiwari’r Cynllun” (“Scheme Actuary”) yw’r actiwari a benodwyd gan Weinidogion Cymru i ddarparu cyngor actiwaraidd a chyflawni unrhyw swyddogaethau statudol a nodir yn y Cynllun;”;

“ystyr “aelod arbennig” (“special member”) yw aelod-ddiffoddwr tân arbennig, aelod gohiriedig arbennig neu aelod-bensiynwr arbennig;”;

mae i “aelod gohiriedig arbennig” (“special deferred member”) yr ystyr a roddir yn rheol 1A(5) i (8) o Ran 2;”;

“ystyr “aelod safonol” (“standard member”) yw aelod o’r Cynllun hwn ac eithrio aelod arbennig;”;

“mae i “aelod-bensiynwr arbennig” (“special pensioner member”) yr ystyr a roddir yn rheol 1A(9) i (13) o Ran 2;”;

“mae i “aelod-ddiffoddwr tân arbennig” (“special firefighter member”) yr ystyr a roddir yn rheol 1A(1) i (4) o Ran 2;”;

“ystyr “aelodaeth arbennig” (“special membership”) yw aelodaeth o’r Cynllun hwn fel aelod-ddiffoddwr tân arbennig, aelod gohiriedig arbennig neu aelod-bensiynwr arbennig, yn ôl fel y digwydd;”;

“ystyr “aelodaeth safonol” (“standard membership”) yw aelodaeth o’r Cynllun hwn fel aelod safonol;”;

“mae i “amodau cymhwyster arbennig” (“special eligibility conditions”) yr ystyr a roddir yn rheol 2A o Ran 2;”;

“ystyr “cyfnod arbennig gorfodol” (“mandatory special period”) yw’r rhan honno o wasanaeth person yn ystod y cyfnod cyfyngedig sy’n cychwyn ar y dyddiad a ddewiswyd gan y person cyn 6 Ebrill 2006 ac yn diweddu ar y cynharaf o’r canlynol—

(a)   y dyddiad yr ymunodd y person â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig neu fel aelod safonol mewn perthynas â gwasanaeth y gallai’r person, fel arall, ei gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig,

(b)   y dyddiad, os yw’n gymwys, y diswyddwyd y person neu yr ymddeolodd o’i gyflogaeth fel diffoddwr tân rheolaidd neu ddiffoddwr tân wrth gefn; ac

(c) 31 Mawrth 2015;”;

ystyr “cyfnod cyfyngedig” (“limited period”) yw’r cyfnod sy’n cychwyn ar 1 Gorffennaf 2000 neu os yw’n ddiweddarach, y dyddiad sy’n digwydd cyn 6 Ebrill 2006 pan gyflogwyd y person gyntaf fel diffoddwr tân wrth gefn ac yn diweddu ar y cynharaf o’r canlynol—

(a)   y dyddiad yr ymunodd y person hwnnw â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig neu fel aelod safonol mewn perthynas â gwasanaeth y gallai’r aelod, fel arall, ei gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig,

(b)   y dyddiad, os yw’n gymwys, pan ddaeth cyflogaeth y person fel diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân rheolaidd i ben; ac

(c) 31 Mawrth 2015;”;

ystyr “cyfraniad ar ffurf cyfandaliad” (“lump sum contribution”) yw’r cyfandaliad sy’n daladwy o dan baragraffau (1) i (13) o reol 6A o Ran 11;”;

“ystyr “cyfraniad pensiwn arbennig” (“special pension contribution”) yw’r cyfraniad pensiwn a nodir yn rheol 3(1A) o Ran 11;”;

“ystyr “cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol” (“mandatory special period pension contributions”) yw’r cyfraniad pensiwn arbennig sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaeth aelod arbennig yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol o dan reol 6A o Ran 11 ynghyd ag unrhyw log sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cyfraniad hwnnw yn unol â rheol 6A(13);”;

“ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Cyllid 2004([3]);”;

“ystyr “diffoddwr tân gwirfoddol” (“volunteer firefighter”) yw person sy’n cael ei gyflogi gan awdurdod—

(a)   fel diffoddwr tân gwirfoddol ond nid fel diffoddwr tân rheolaidd neu ddiffoddwr tân wrth gefn;

(b)   ar delerau y mae neu y gall fod yn ofynnol i’r diffoddwr tân ddiffodd tân (pa un ai yn lle diffodd tân, neu’n ychwanegol at ei ddiffodd);

(c)   mewn ffordd heblaw dros dro; ac

(ch) y mae’n ofynnol iddo fod yn bresennol ar yr adegau hynny y mae’r swyddog sy’n goruchwylio yn eu hystyried yn angenrheidiol, ac yn unol â’r gorchmynion y mae’r diffoddwr tân yn eu cael;;

ystyr “dyddiad cychwynnol” (“initial date”) yw 1 Ionawr 2015;;

“mae “gwasanaeth pensiynadwy arbennig” (“special pensionable service”) i’w ddehongli yn unol â rheolau 2A i 5 o Ran 10;”;

“ystyr “gwasanaeth wrth gefn pensiynadwy arbennig” (“special pensionable retained service”), mewn perthynas â diffoddwr tân wrth gefn sy’n aelod arbennig ac unrhyw gyfnod o wasanaeth pensiynadwy arbennig, yw’r un gyfran o wasanaeth amser-cyflawn â’r gyfran honno o dâl cyfeirio’r diffoddwr tân a gynrychiolir gan ei dâl pensiynadwy gwirioneddol am y cyfnod hwnnw;”;

ystyr “pensiwn cyffredin” (“ordinary pension”), mewn perthynas ag aelod safonol, yw pensiwn y cyfeirir ato yn rheol 1 o Ran 3 (dyfarndaliadau personol);;

“ystyr “pensiwn cyffredin aelod arbennig” (“special member’s ordinary pension”) yw pensiwn o’r disgrifiad y cyfeirir ato yn rheol 1A o Ran 3;”;

ystyr “pensiwn plentyn” (“child’s pension”) yw pensiwn o dan reol 6 (pensiwn plentyn) o Ran 4 (pensiynau goroeswyr);”;

“mae i “taliad trethadwy o’r cynllun” yr ystyr a roddir i “scheme chargeable payment” yn adran 241 o Ddeddf 2004;”;

“ystyr “YMCA” (“IQMP”) yw ymarferydd meddygol cymwysedig annibynnol;;

(b)     yn y diffiniad o “plentyn” (“child”) yn lle “neu aelod-bensiynwr” rhodder “aelod-bensiynwr neu aelod arbennig”;

(c)     ar ddiwedd y diffiniad o “dewis ymuno” (“opt in”)mewnosoder—

, neu, yn achos aelod-ddiffoddwr tân arbennig, mae’n golygu dewis o dan reol 6A o Ran 11 i dalu’r cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol;;

(d)     yn y diffiniad o “pensiynwr” (“pensioner”), ar ôl ““aelod-bensiynwr” (“pensioner member”)” mewnosoder “neu “aelod-bensiynwr arbennig” (“special pensioner member”)”;

(e)     yn lle’r diffiniad o “diffoddwr tân wrth gefn” (“retained firefighter”) a “diffoddwr tân gwirfoddol” (“volunteer firefighter”)rhodder—

ystyr “diffoddwr tân wrth gefn” (“retained firefighter”) yw person sy’n cael ei gyflogi gan awdurdod—

(a)   fel diffoddwr tân wrth gefn, ond nid fel diffoddwr tân rheolaidd nac fel diffoddwr tân gwirfoddol;

(b)   ar delerau y mae neu y gall fod yn ofynnol i’r diffoddwr tân ddiffodd tân neu, heb doriad ym mharhad cyflogaeth o’r fath, gyflawni dyletswyddau eraill sy’n briodol i rôl y diffoddwr tân fel diffoddwr tân (pa un ai yn lle diffodd tân, neu’n ychwanegol at ei ddiffodd);

(c)   mewn ffordd heblaw dros dro; ac

(ch) y mae’n ofynnol iddo fod yn bresennol ar yr adegau hynny y mae’r swyddog sy’n goruchwylio yn eu hystyried yn angenrheidiol, ac yn unol â’r gorchmynion y mae’r diffoddwr tân yn eu cael;.

(3) Yn rheol 2, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Mae cyfeiriadau yn y Cynllun hwn at aelod-ddiffoddwr tân, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr yn cynnwys cyfeiriadau at aelod-ddiffoddwr tân arbennig, aelod gohiriedig arbennig neu aelod-bensiynwr arbennig, yn y drefn honno, oni nodir bwriad sy’n groes i hynny. 

Diwygio Rhan 2 (aelodaeth o’r cynllun, diweddu ac ymddeol)

2.—(1) Mae Rhan 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 1 (aelodaeth o’r cynllun), yn lle paragraff (2A) rhodder

(2A) Pan fo person sydd—

(a)   wedi dechrau cyflogaeth fel diffoddwr tân cyn 6 Ebrill 2006;

(b)   wedi parhau mewn cyflogaeth o’r fath tan ei ddyddiad cofrestru awtomatig;

(c)   wedi gwneud dewisiad i beidio â thalu cyfraniadau o dan Gynllun 1992 neu nad yw’n gymwys i fod yn aelod o Gynllun 1992; ac

(ch) heb ddewis dod yn aelod o’r Cynllun hwn fel arall,

yn cael ei gofrestru’n awtomatig yn y Cynllun hwn, bydd y cofrestriad hwnnw yn golygu dewis dod yn aelod-ddiffoddwr tân o’r Cynllun hwn. 

(3) Ym mharagraff (4) o reol 1 (aelodaeth o’r cynllun), ar ôl “wasanaeth pensiynadwy” mewnosoder “neu ei wasanaeth pensiynadwy arbennig”.

(4) Ar ôl rheol 1 mewnosoder—

Aelodaeth arbennig

1A.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5) a (15), mae aelod-ddiffoddwr tân o unrhyw ddisgrifiad a ganlyn hefyd yn aelod-ddiffoddwr tân arbennig o’r Cynllun hwn—

(a)   person sydd—

                       (i)  wedi dechrau cyflogaeth fel diffoddwr tân wrth gefn cyn 6 Ebrill 2006;

                      (ii)  wedi parhau mewn cyflogaeth o’r fath tan ddyddiad dewisiad y person; a

                     (iii)  wedi gwneud dewisiad([4]) o fewn y cyfnod sy’n ofynnol gan reol 6B(1), neu 6B(12) yn ôl fel y digwydd, o Ran 11, i dalu’r cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol;

(b)   person sydd—

                       (i)  wedi dechrau cyflogaeth fel diffoddwr tân wrth gefn cyn 6 Ebrill 2006;

                      (ii)  wedi parhau mewn cyflogaeth o’r fath tan ddyddiad ar neu ar ôl 6 Ebrill 2006;

                     (iii)  yn union ar ôl terfynu cyflogaeth o’r fath, wedi dechrau cyflogaeth fel diffoddwr tân rheolaidd ac wedi parhau yn y gyflogaeth honno tan  ddyddiad ei ddewisiad; a

                     (iv)  wedi gwneud dewisiad o fewn y cyfnod sy’n ofynnol gan reol 6B(1) o Ran 11, neu 6B(12) yn ôl fel y digwydd, i dalu’r cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol.

(2) Pan fo aelod-ddiffoddwr tân arbennig yn gwneud dewisiad cyfraniadau mewn cysylltiad ag aelodaeth arbennig yr aelod ac yn peidio â bod yn aelod arbennig, caiff yr aelod ddod drachefn yn aelod-ddiffoddwr tân (ond nid yn aelod arbennig) yn rhinwedd rheol 6 o’r Rhan hon, a fydd yn gymwys i’r aelod fel pe bai’r geiriau “unwaith eto’n” wedi eu disodli gan y gair “yn”.

(3) Mae aelod-ddiffoddwr tân arbennig sy’n cael ei drin fel pe bai wedi peidio â gwneud cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol yn unol â rheol 6B(5)(c) o Ran 11 yn peidio â bod yn aelod-ddiffoddwr tân arbennig ac yn dod yn aelod gohiriedig arbennig.

(4) Mae aelod-ddiffoddwr tân arbennig sydd â hawl ganddo i gyfrif cyfnod fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig yn unol â rheol 5 o Ran 10 ac sy’n ailddechrau gwasanaethu yn union ar ôl y cyfnod hwnnw, yn parhau’n aelod-ddiffoddwr tân arbennig.

(5) Mae aelod-ddiffoddwr tân arbennig y byddai hawl ganddo i gyfrif cyfnod fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig yn unol â rheol 4 o Ran 10 (cyfrif cyfnod o absenoldeb di-dâl) pe bai’r aelod yn gwneud dewisiad i brynu gwasanaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod hwnnw o dan reol 4(1) o’r Rhan honno ac wedyn yn talu’r cyfraniad pensiwn arbennig mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw, ond nad yw’n gwneud dewisiad felly nac yn talu’r cyfraniad pensiwn arbennig hwnnw, yn parhau’n aelod-ddiffoddwr tân arbennig os yw’r aelod yn ailddechrau gwasanaethu yn union ar ôl y cyfnod hwnnw.

(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (15), mae person sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff (7) yn aelod gohiriedig arbennig o’r Cynllun hwn.

(7) Yr amodau yw—

(a)   bod y person wedi dechrau cyflogaeth fel diffoddwr tân wrth gefn cyn 6 Ebrill 2006;

(b)   y bu’n gyflogedig fel diffoddwr tân wrth gefn ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2000;

(c)   ei fod wedi ymddiswyddo neu wedi ei ddiswyddo o’r gyflogaeth honno cyn y dyddiad y mae ei ddewisiad o dan reol 6A o Ran 11 i dalu’r cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol yn cael effaith;

(ch) ei fod yn iau na 55 oed ar ddyddiad ei ymddiswyddiad neu ei ddiswyddiad;

(d)   nad oes hawl ganddo i gael dyfarndal oherwydd afiechyd o dan reol 2 neu 2A o Ran 3; ac

(dd) ei fod wedi gwneud dewisiad o fewn y cyfnod sy’n ofynnol gan reol 6B(1), neu 6B(12) yn ôl fel y digwydd, o Ran 11 i dalu’r cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol.

(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (15), mae person—

(a)   sy’n bodloni gofynion paragraff (1)(a);

(b)   sydd wedi ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod safonol mewn cysylltiad â gwasanaeth y byddai hawl gan y person fel arall i’w drin fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig cyn gwneud dewisiad i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig; ac

(c)   nad yw’n gwneud dewisiad i drosi ei aelodaeth safonol yn aelodaeth arbennig,

yn aelod gohiriedig arbennig o'r Cynllun hwn.

(9) Mae person a oedd yn aelod-ddiffoddwr tân arbennig o’r Cynllun hwn yn union cyn i baragraff (1) o reol 3 o Ran 3 fod yn gymwys i’r person wedyn yn aelod gohiriedig arbennig o’r Cynllun hwn.

(10) Yn ddarostyngedig i baragraff (15), mae person sy’n bodloni’r holl amodau ym mharagraff (11) ac sy’n bodloni o leiaf un o’r amodau ym mharagraff (12) yn aelod-bensiynwr arbennig o’r Cynllun hwn.

(11) Yr amodau yw—

(a)   bod y person wedi dechrau cyflogaeth fel diffoddwr tân wrth gefn cyn 6 Ebrill 2006;

(b)   y bu’n gyflogedig fel diffoddwr tân wrth gefn ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2000;

(c)   ei fod wedi ymddeol o’r gyflogaeth honno cyn y dyddiad y mae dewisiad y person hwnnw o dan reol 6A o Ran 11 i dalu’r cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol yn cael effaith;

(ch) ei fod wedi gwneud dewisiad, o fewn y cyfnod sy’n ofynnol gan reol 6B(1), neu 6B(12) yn ôl fel y digwydd, o Ran 11, i dalu’r cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol.

(12) Yr amodau yw—

(a)   bod y person wedi ymddeol ar ôl cyrraedd 55 oed;

(b)   ei fod wedi ei ddiswyddo neu wedi ymddeol oherwydd anabledd parhaol a gellir bodloni amodau rheol 2A o Ran 3 (dyfarndal ôl-weithredol yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd); neu

(c)   ei fod wedi cyrraedd 60 oed.

(13) Yn ddarostyngedig i baragraff (15), mae person o unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau a ganlyn hefyd yn aelod-bensiynwr arbennig o’r Cynllun hwn—

(a)   person a oedd yn aelod-ddiffoddwr tân arbennig o’r Cynllun hwn yn union cyn i’r person ymddeol ac y mae rheol 1A o Ran 3 yn gymwys iddo;

(b)   person a oedd yn aelod gohiriedig arbennig o’r Cynllun hwn yn union cyn i’r person ymddeol ac sy’n bodloni gofynion paragraff (4) o reol 3 o Ran 3;

(c)   person a oedd yn aelod-ddiffoddwr tân arbennig o’r Cynllun hwn yn union cyn i’r person adael ei gyflogaeth oherwydd anabledd parhaol ac sydd â hawl ganddo o dan reol 2 (dyfarndal yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd) o Ran 3 (dyfarndaliadau personol) i gael pensiwn afiechyd haen is neu bensiwn afiechyd haen uwch.

(14) Mae person a oedd yn aelod gohiriedig arbennig o’r Cynllun hwn yn union cyn ei ben-blwydd yn 60 oed yn aelod-bensiynwr arbennig ar ôl y dyddiad hwnnw.

(15) Ni chaiff person a oedd yn cael ei gyflogi fel diffoddwr tân wrth gefn ac y mae paragraff (1) o reol 2 o Ran 8 o’r Cynllun Iawndal yn gymwys iddo (dyfarndal i ddiffoddwr tân wrth gefn neu mewn perthynas â diffoddwr tân) fod yn aelod arbennig o’r Cynllun hwn.

(5) Ar ôl rheol 2 (amodau cymhwyster) mewnosoder—

Amodau cymhwyster arbennig

2A.—(1) Mae aelod-ddiffoddwr tân arbennig yn gymwys i gael pensiwn cyffredin aelod arbennig neu bensiwn o dan reol 2 (dyfarndal yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd) neu reol 3 (pensiwn gohiriedig) o Ran 3 fel aelod arbennig o dan y Cynllun hwn—

(a)   os yw’r aelod yn talu’r cyfraniad pensiwn arbennig; a

(b)   os bodlonir amod cymhwyster.

(2) Mae aelod gohiriedig arbennig neu aelod-bensiynwr arbennig yn gymwys i gael pensiwn cyffredin aelod arbennig neu bensiwn o dan reol 2 (dyfarndal yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd) neu reol 2A (dyfarndal ôl-weithredol yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd) os bodlonir amod cymhwyster.

(3) Mae hawlogaeth gan aelod gohiriedig arbennig a oedd yn aelod-ddiffoddwr tân arbennig yn union cyn i’r aelod fodloni gofynion paragraff (1) o reol 3 o Ran 3, ac y bodlonir amod cymhwyster mewn perthynas ag ef, i gael pensiwn cyffredin aelod arbennig.”

(6) Ym mharagraffau (1) a (2) o reol 3  (yr oedran ymddeol arferol a’r oedran buddion arferol), ar ôl “tân” ym mhob man lle mae’n digwydd mewnosoder “nad ydynt yn aelod-ddiffoddwyr tân arbennig”.

(7) Ar ôl paragraff (2) o reol 3 (yr oedran ymddeol arferol a’r oedran buddion arferol) mewnosoder—

(3) Yr oedran ymddeol arferol ar gyfer aelod-ddiffoddwyr tân arbennig, neu ar gyfer personau a ymunodd â’r Cynllun hwn fel aelod-bensiynwr arbennig, yw 55 oed.

(4) Yr oedran buddion arferol ar gyfer aelod-ddiffoddwyr tân arbennig, neu ar gyfer aelodau gohiriedig arbennig, yw 60  oed. 

Diwygio Rhan 3 (dyfarndaliadau personol)

3.—(1) Mae Rhan 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 1 (pensiwn cyffredin) yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Nid yw’r rheol hon yn gymwys i—

(a)   aelod-ddiffoddwr tân y mae ei hysbysiad ymddeol yn datgan bod yr aelod yn ymddeol er mwyn dechrau cyflogaeth gydag awdurdod arall; neu

(b)   yn ddarostyngedig i reol 18 o Ran 12, aelod-ddiffoddwr tân arbennig mewn cysylltiad â gwasanaeth pensiynadwy arbennig.

(3) Ar ôl rheol 1 mewnosoder—

Pensiwn cyffredin aelod arbennig

1A.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r rheol hon yn gymwys i aelod o’r Cynllun hwn sy’n aelod arbennig, ac sy’n bodloni un o’r amodau cymhwyster arbennig ac sy’n ymddeol neu wedi ymddeol.

(2) Nid yw’r rheol hon yn gymwys i aelod-ddiffoddwr tân arbennig y mae ei hysbysiad ymddeol yn datgan bod yr aelod yn ymddeol er mwyn dechrau cyflogaeth fel diffoddwr tân gydag awdurdod arall.

(3) Yn achos aelod arbennig y mae’r rheol hon yn gymwys iddo—

(a)   nad oes hawlogaeth ganddo i gael dyfarndal afiechyd o dan reol 2 neu 2A;

(b)   sy’n cyrraedd neu wedi cyrraedd 55 oed; ac

(c)   yn ymddeol,

mae hawlogaeth gan yr aelod i gael pensiwn cyffredin aelod arbennig.

(4) Mae hawlogaeth gan aelod arbennig, nad oes hawlogaeth ganddo i gael pensiwn cyffredin aelod arbennig o dan baragraff (3) nac ychwaith ddyfarndal afiechyd o dan reol 2 neu 2A, i gael pensiwn gohiriedig.

(5) Pan ddaw aelod arbennig y mae’r rheol hon yn gymwys iddo yn un a chanddo hawlogaeth i gael pensiwn cyffredin aelod arbennig mewn perthynas â gwasanaeth fel diffoddwr tân wrth gefn, rhaid cyfrifo pensiwn cyffredin yr aelod arbennig drwy luosi tâl pensiynadwy terfynol yr aelod â gwasanaeth wrth gefn pensiynadwy arbennig yr aelod a rhannu’r swm canlyniadol â 45.

(6) Pan fo gan aelod arbennig y mae’r rheol hon yn gymwys iddo wasanaeth pensiynadwy arbennig fel diffoddwr tân rheolaidd, sydd wedi cronni tra oedd yr aelod yn aelod arbennig, bydd hawlogaeth gan yr aelod, pan yw’n ymddeol, i gael pensiwn cyffredin aelod arbennig a gyfrifir drwy luosi’r rhan honno o wasanaeth pensiynadwy arbennig yr aelod sydd i’w phriodoli i’w wasanaeth fel diffoddwr tân rheolaidd â thâl pensiynadwy terfynol yr aelod a rhannu’r swm canlyniadol â 45.

(7) Pan fo paragraff (6) yn gymwys, rhaid ychwanegu’r swm a gyfrifir o dan y paragraff hwnnw at y swm a gyfrifir o dan baragraff (5).

(8) Pan fo person yn ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod-bensiynwr arbennig, a hawlogaeth ganddo i gael pensiwn o dan y rheol hon, rhaid i’r awdurdod dalu i’r aelod gyfandaliad sy’n hafal i werth, ynghyd â llog, y taliadau pensiwn (“taliadau pensiwn cynt”) y byddai’r aelod wedi eu cael hyd at ddyddiad talu’r cyfandaliad, pe bai’r aelod, ar ddyddiad ei ymddeoliad, wedi bod yn aelod o’r Cynllun hwn a oedd wedi gwneud cyfraniadau cyfwerth â chyfraniadau’r aelod o dan reolau 6A a 6 B o Ran 11, ac wedi hynny rhaid i’r awdurdod dalu i’r aelod bensiwn cyffredin aelod arbennig.

(9) Mae’r llog sy’n daladwy yn unol â pharagraff (8) yn daladwy fel a ganlyn—

(a)   at ddibenion cyfrifo’r llog o dan y paragraff hwn, rhaid rhagdybio bod y taliadau pensiwn cynt yn daladwy o’r dyddiad y cyrhaeddodd yr aelod oedran ymddeol arferol;

(b)   mae llog yn dechrau cronni o’r dyddiad y byddai’r taliad pensiwn cynt cyntaf wedi ei wneud yn unol ag is-baragraff (a) ac mae’n peidio â chronni ar ddyddiad talu’r cyfandaliad yn unol â pharagraff (8) o’r rheol hon;

(c)   rhaid cyfrifo’r llog drwy gymhwyso’r gyfradd llog gynt i’r taliad pensiwn cynt gyda’r adlog misol rhwng y mis y byddai pob taliad pensiwn cynt wedi ei wneud yn unol ag is-baragraff (a) hyd ddyddiad talu’r cyfandaliad,

ac at ddibenion y rheol hon, ystyr “cyfradd llog gynt” (“previous interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth â’r llog a oedd ar gael ar y diweddaraf o’r tystysgrifau cynilo llog sefydlog pum mlynedd gan y Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sydd ar gael ar y 15fed diwrnod o bob mis a fyddai wedi bod yn gymwys i’r cyfnod pan fyddai’r taliad pensiwn cynt o dan sylw wedi ei wneud yn unol ag is-baragraff (a).

(4) Yn rheol 2 (dyfarndal yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd)—

(a)     yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Mae gan bob aelod-ddiffoddwr tân y mae’r rheol hon yn gymwys iddo ac sy’n bodloni—

(a)   yn achos aelod-ddiffoddwr tân ac eithrio aelod-ddiffoddwr tân arbennig, amod cymhwyster;

(b)   yn achos aelod-ddiffoddwr tân arbennig, un o’r amodau cymhwyster arbennig,

hawlogaeth, adeg ei ymddeoliad, i gael pensiwn afiechyd haen is a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Atodiad 1 i’r Cynllun hwn.; a

(b)     ym mharagraff (4), yn lle “Swm y pensiwn afiechyd haen uwch” rhodder “Swm y dyfarndal afiechyd haen uwch”.

(5) Ar ôl rheol 2, mewnosoder—

Dyfarndal ôl-weithredol yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd

2A.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys i berson sy’n gwneud dewisiad i ymuno â’r Cynllun fel aelod gohiriedig arbennig neu aelod-bensiynwr arbennig ac a oedd wedi ei ddiswyddo ar sail afiechyd neu wedi ymddeol o gyflogaeth fel diffoddwr tân wrth gefn cyn 6 Ebrill 2006.

(2) Caiff person y mae’r rheol hon yn gymwys iddo wneud cais i’r awdurdod a gyflogodd y person ddiwethaf fel diffoddwr tân wrth gefn am ei asesu gan YMCA a ddewisir gan yr awdurdod er mwyn penderfynu a oedd y person yn analluog yn barhaol i gyflawni dyletswyddau diffoddwr tân ar y dyddiad y diswyddwyd y person ar sail afiechyd neu yr ymddeolodd, ac a yw’r person wedi dod yn alluog i gyflawni’r dyletswyddau hynny ers y dyddiad hwnnw.

(3) Rhaid gwneud unrhyw gais o dan baragraff (2) yn ystod y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad gan yr awdurdod o dan reol 5A(13) (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig) o Ran 11.

(4) Rhaid i’r awdurdod gael barn ysgrifenedig gan YMCA ynglŷn ag a oedd y person yn analluog yn barhaol i gyflawni dyletswyddau diffoddwr tân ar ddyddiad y diswyddiad neu’r ymddeoliad, ac os felly, a yw’r person wedi dod yn alluog i gyflawni’r dyletswyddau hynny ers y dyddiad hwnnw.

(5) Rhaid i’r awdurdod benderfynu a oes hawlogaeth gan y person i gael dyfarndal ôl-weithredol yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd ar sail barn ysgrifenedig yr YMCA ac ni chaiff benderfynu bod hawlogaeth gan berson i gael dyfarndal ac eithrio pan fo’r YMCA yn datgan ei farn fod y person yn analluog yn barhaol i gyflawni dyletswyddau diffoddwr tân ar ddyddiad y diswyddiad neu’r ymddeoliad, ac nad yw wedi dod yn alluog i gyflawni’r dyletswyddau hynny ers y dyddiad hwnnw.

(6) Yn ei farn o dan baragraff (4), rhaid i’r YMCA ardystio—

(a)   nad yw’r YMCA wedi rhoi cyngor blaenorol, nac wedi datgan ei farn, ynglŷn â’r achos penodol y gofynnwyd am y farn yn ei gylch, nac wedi ymwneud rywfodd arall â’r achos hwnnw, a

(b)   nad yw’r YMCA yn gweithredu, ac na fu ar unrhyw adeg yn gweithredu, fel cynrychiolydd y cyflogai, yr awdurdod, neu unrhyw barti arall mewn perthynas â’r un achos.

(7) Pan fo’r YMCA wedi rhoi barn o dan baragraff (4), bydd yn ddarostyngedig i’w hadolygu o dan reol 3 (adolygu barn feddygol) o Ran 8 (dyfarnu cwestiynau ac apelau) ac i ganlyniad apêl o dan reol 4 (apelau yn erbyn penderfyniadau sydd wedi’u seilio ar gyngor meddygol) o Ran 8.

(8) Mae barn YMCA o dan baragraff (4) yn rhwymo’r awdurdod oni ddisodlir hi gan ymateb yr YMCA o dan reol 3 o Ran 8 neu ganlyniad apêl o dan reol 4 o Ran 8 fel y crybwyllir ym mharagraff (7).

(9) Os—

(a)   yw’r person dan sylw yn fwriadol neu’n esgeulus yn methu â goddef ymchwiliad meddygol gan yr YMCA a ddewiswyd gan yr awdurdod, a

(b)   nad yw’r YMCA yn gallu rhoi barn ar sail y dystiolaeth feddygol sydd ar gael,

caiff yr awdurdod wneud penderfyniad ar y mater ar sail unrhyw dystiolaeth feddygol arall fel y gwêl yn dda, neu heb dystiolaeth feddygol.

(10) Os yw’r awdurdod yn penderfynu bod hawlogaeth gan y person i gael dyfarndal ôl-weithredol yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd, rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud ei benderfyniad, ynghyd â chopi o farn yr YMCA.

(11) Os nad yw’r awdurdod yn penderfynu bod hawlogaeth gan y person i gael dyfarndal ôl-weithredol yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd fel a grybwyllir ym mharagraff (10), rhaid i’r awdurdod—

(a)   rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r person o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud ei benderfyniad;

(b)   darparu copi o farn yr YMCA i’r person; a

(c)   rhoi gwybod i’r person y caiff y person wneud cais am adolygiad o’r farn honno o dan reol 3 (adolygu barn feddygol) neu apelio yn erbyn y penderfyniad o dan reol 4 (apelau yn erbyn penderfyniadau sydd wedi’u seilio ar gyngor meddygol) o Ran 8 (dyfarnu cwestiynau ac apelau).

(12) Pan fo person wedi bodloni un o’r amodau cymhwyster arbennig a’r awdurdod wedi dyfarnu bod hawlogaeth gan y person i gael dyfarndal ôl-weithredol yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd, rhaid i’r awdurdod dalu i’r person gyfandaliad sy’n hafal i werth, ynghyd â llog, y taliadau pensiwn afiechyd haen uwch (“taliadau pensiwn cynt”) y byddai’r person hwnnw wedi eu cael hyd at ddyddiad talu’r cyfandaliad, pe bai’r person, ar ddyddiad ei ddiswyddiad neu ei ymddeoliad, wedi bod yn aelod o’r Cynllun hwn a oedd wedi gwneud cyfraniadau cyfwerth â chyfraniadau’r person o dan reol 6A o Ran 11, ac wedi hynny rhaid i’r awdurdod dalu i’r person bensiwn afiechyd haen uwch.

(13) Mae’r llog sy’n daladwy yn unol â pharagraff (12) yn daladwy fel a ganlyn—

(a)   at ddibenion cyfrifo’r llog o dan y paragraff hwn rhagdybir bod y taliadau pensiwn cynt yn daladwy o’r dyddiad y byddai’r aelod wedi cael taliad pensiwn afiechyd haen uwch yn gyntaf os, ar ddyddiad y diswyddiad neu’r ymddeoliad, oedd yr aelod wedi bod yn aelod o’r Cynllun hwn;

(b)   mae llog yn dechrau cronni o’r dyddiad y byddai’r taliad pensiwn cynt cyntaf wedi ei wneud yn unol ag is-baragraff (a) ac mae’n peidio â chronni ar ddyddiad talu’r cyfandaliad yn unol â pharagraff (12) o’r rheol hon;

(c)   rhaid cyfrifo’r llog drwy gymhwyso’r gyfradd llog gynt i’r taliad pensiwn cynt gyda’r adlog misol rhwng y mis y byddai pob taliad pensiwn cynt wedi ei wneud yn unol ag is-baragraff (a) hyd ddyddiad talu’r cyfandaliad,

ac at ddibenion y rheol hon, ystyr “cyfradd llog gynt” yw cyfradd sy’n gyfwerth â’r llog a oedd ar gael ar y diweddaraf o’r tystysgrifau cynilo llog sefydlog pum mlynedd gan y Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sydd ar gael ar y 15fed diwrnod o bob mis a fyddai wedi bod yn gymwys i’r cyfnod pan fyddai’r taliad pensiwn cynt o dan sylw wedi ei wneud yn unol ag is-baragraff (a).

(14) Nid oes hawlogaeth gan aelod o’r Cynllun hwn, sydd â hawlogaeth i gael dyfarndal ôl-weithredol o dan y rheol hon, i gael pensiwn cyffredin na phensiwn cyffredin aelod arbennig mewn perthynas â’r un gwasanaeth pensiynadwy arbennig.

(6) Yn rheol 3 (pensiwn gohiriedig)—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “Mae’r rheol hon yn gymwys” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae’r rheol hon yn gymwys”;

(b)     ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(7) Yn achos aelod-ddiffoddwr tân sy’n aelod-ddiffoddwr tân arbennig, mae paragraff (1) yn gymwys os rhoddir “un o’r amodau cymhwyster arbennig” yn lle “amod cymhwyster” yn is-baragraff (a) ac os rhoddir “45” yn lle “60” a “gwasanaeth pensiynadwy arbennig y” yn lle “gwasanaeth pensiynadwy’r” ym mharagraff (3).

(7) Ym mharagraff (1) o reol 5 (pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod), ar ôl “aelod-ddiffoddwr tân” mewnosoder “ac eithrio aelod-ddiffoddwr tân arbennig”.

(8) Yn rheol 6 (pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod), ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Nid yw’r rheol hon yn gymwys i aelod-ddiffoddwr tân sy’n aelod-ddiffoddwr tân arbennig. 

(9) Yn rheol 7 (yr hawlogaeth i gael dau bensiwn)—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (6)” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (9)”;

(b)     ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

(9) Yn achos aelod arbennig, mae’r rheol hon yn gymwys os rhoddir “45” yn lle “60” ym mharagraffau (3), (4) a (7), y geiriau “gwasanaeth pensiynadwy arbennig” yn lle “gwasanaeth pensiynadwy” ym mhob man lle digwyddant ac “1A” yn lle “1” ym mharagraff (5). 

(10) Yn rheol 7A (budd pensiwn ychwanegol: gwasanaeth hir)—

(a)     ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau ar ôl y fformiwla, rhodder—

“Pan fo—

A yn dynodi’r nifer o flynyddoedd dros ben 15, ond nid dros ben 20, (gan drin rhan o flwyddyn fel y ffracsiwn priodol) o wasanaeth pensiynadwy di-dor sydd gan yr aelod yng nghyflogaeth awdurdod ynghyd â’i wasanaeth pensiynadwy di-dor dilynol yng nghyflogaeth awdurdod arall yng Nghymru, hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2007; a

B yn dynodi’r nifer o flynyddoedd dros ben 20, ond nid dros ben 30, (gan drin rhan o flwyddyn fel y ffracsiwn priodol) o wasanaeth pensiynadwy di-dor sydd gan yr aelod yng nghyflogaeth awdurdod ynghyd â’i wasanaeth pensiynadwy di-dor dilynol yng nghyflogaeth awdurdod arall yng Nghymru, hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2007.;

(b)     ym mharagraff (3), yn lle “Pan fo’r” rhodder “Hyd at 11 Ebrill 2011, pan fo’r”;

(c)     ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Ar 11 Ebrill 2011, ac ar ôl hynny, mae swm y budd pensiwn ychwanegol (fel y’i cyfrifir yn unol â pharagraff (2) a pharagraff (3) ac, os yw’n gymwys, paragraff (3B) a’r paragraff hwn) i’w gynyddu ar y dydd Llun cyntaf yn y flwyddyn dreth berthnasol ddilynol, o’r un swm ag unrhyw gynnydd y byddid wedi ei gymhwyso pe bai’r budd pensiwn ychwanegol hwnnw yn bensiwn yr oedd Deddf Pensiynau (Cynnydd) 1971 yn gymwys iddo a’r dyddiad cychwyn ar gyfer y pensiwn hwnnw yn digwydd ar 1 Gorffennaf yn y flwyddyn dreth yn union cyn y flwyddyn dreth berthnasol.

(3B) Er mwyn osgoi amheuaeth, mae’r cynnydd o ran y budd pensiwn ychwanegol yn y flwyddyn dreth 2010/2011 i gael ei gynyddu gan yr un ganran â’r cynnydd canran yn y Mynegi Prisiau Defnyddwyr ym Medi 2010, gydag effaith o ddydd Llun 11 Ebrill 2011 ymlaen.; a

(d)     ym mharagraff (5) yn lle “mharagraff (3)” rhodder “mharagraffau (3) a (3A)”, ac yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “blwyddyn dreth berthnasol ddilynol” (“following relevant tax year”) yw’r flwyddyn dreth sy’n dilyn y flwyddyn dreth berthnasol, nad yw’r aelod yn aelod-bensiynwr nac yn aelod gohiriedig mewn perthynas â hi;”, ac

“ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the beginning date”) yw’r dyddiad y trinnir y pensiwn fel pe bai’n cychwyn arno at ddibenion adran 8(2) o Ddeddf Pensiynau (Cynnydd) 1971.

(11) Yn lle rheol 7B (budd pensiwn ychwanegol: datblygiad proffesiynol parhaus) rhodder—

Budd pensiwn ychwanegol

7B.—(1) Pan fo awdurdod yn penderfynu bod y buddion a restrir ym mharagraff (5) yn bensiynadwy ac, mewn unrhyw flwyddyn budd pensiwn ychwanegol, yn talu unrhyw fuddion pensiynadwy o’r fath i aelod-ddiffoddwr tân, rhaid i’r awdurdod gredydu’r aelod-ddiffoddwr tân â swm o fudd pensiwn ychwanegol mewn perthynas â’r flwyddyn honno.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid dyfarnu swm y budd pensiwn ychwanegol mewn perthynas â’r flwyddyn honno ar 1 Gorffennaf sy’n dilyn yn union ar ôl y flwyddyn dan sylw, yn unol â chanllawiau a thablau a ddarperir gan Actiwari’r Cynllun, a rhaid darparu canllawiau a thablau ar wahân ar gyfer aelodau arbennig.

(3) Rhaid cynyddu swm y budd pensiwn ychwanegol a ddyfernir yn unol â pharagraff (2) ar y dydd Llun cyntaf yn y flwyddyn dreth berthnasol ddilynol, o’r un swm ag unrhyw gynnydd y byddid wedi ei gymhwyso pe bai’r budd pensiwn ychwanegol hwnnw yn bensiwn yr oedd Deddf Pensiynau (Cynnydd) 1971 yn gymwys iddo a’r dyddiad cychwyn ar gyfer y pensiwn hwnnw yn digwydd ar 1 Gorffennaf yn y flwyddyn dreth yn union cyn y flwyddyn dreth berthnasol.

(4) Er mwyn osgoi amheuaeth, rhaid cynyddu’r cynnydd o ran y budd pensiwn ychwanegol yn y flwyddyn dreth 2010/2011 o’r un ganran â’r cynnydd canran yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ym Medi 2010, gydag effaith o ddydd Llun 11 Ebrill 2011.

(5) Y buddion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)   unrhyw lwfans neu atodiad i wobrwyo sgiliau a chyfrifoldebau ychwanegol, a gymhwysir ac a gynhelir y tu allan i ofynion dyletswyddau’r aelod-ddiffoddwr tân o dan y contract cyflogaeth, ond sydd o fewn swyddogaethau ehangach y swydd;

(b)   y swm (os oes un) a delir mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus yr aelod-ddiffoddwr tân;

(c)   y gwahaniaeth rhwng tâl sylfaenol yr aelod-ddiffoddwr tân yn ei rôl o ddydd i ddydd ac unrhyw dâl a gaiff yn ystod dyrchafiad dros dro, neu pan yw’n ofynnol dros dro fod yr aelod yn ymgymryd â rôl uwch;

(ch) unrhyw daliad ar sail perfformiad nad yw wedi ei gyfuno’n rhan o dâl yr aelod.

(6) Yn y rheol hon—

ystyr “blwyddyn budd pensiwn ychwanegol” (“additional pension benefit year”) yw’r cyfnod o 12 mis sy’n cychwyn ag 1 Gorffennaf, pan fo diffoddwr tân yn cael unrhyw un neu ragor o’r buddion a restrir ym mharagraff (5);

ystyr “blwyddyn dreth” (“tax year”) yw cyfnod o 12 mis sy’n cychwyn â 6 Ebrill;

ystyr “blwyddyn dreth berthnasol” (“relevant tax year”) yw blwyddyn dreth—

(a)   y cymerir i ystyriaeth mewn perthynas â hi swm buddion pensiwn aelod-ddiffoddwr tân at ddibenion treth, a ddyfernir o dan y rheol hon at ddibenion y Cynllun hwn, ac

(b)   nad yw’r aelod-ddiffoddwr tân yn cael pensiwn o dan y Cynllun hwn mewn perthynas â hi nac ychwaith â hawlogaeth i gael pensiwn gohiriedig o dan reol 3;

ystyr “blwyddyn dreth berthnasol ddilynol” (“following relevant tax year”) yw’r flwyddyn dreth sy’n dilyn y flwyddyn dreth berthnasol, nad yw’r aelod yn cael pensiwn o dan y Cynllun hwn mewn perthynas â hi nac ychwaith â hawlogaeth i gael pensiwn gohiriedig o dan reol 3 o Ran 3; ac

ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the beginning date”) yw’r dyddiad y trinnir y pensiwn fel pe bai’n cychwyn arno at ddibenion adran 8(2) o Ddeddf Pensiynau (Cynnydd) 1971.

(12) Yn rheol 9 (cymudo: cyffredinol)—

(a)     ym mharagraff (2), yn lle “Mae’r cyfandaliad” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2A), mae’r cyfandaliad”;

(b)     ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Yn achos pensiwn sy’n daladwy mewn perthynas ag aelod-bensiynwr arbennig, rhaid cyfrifo’r cyfandaliad drwy luosi swm pensiwn y person, sef y gyfran a gymudwyd ar y dyddiad ymddeol, â’r ffactor a bennir yn y tabl yn Atodiad ZA drwy gyfeirio at oedran y person.”;

(c)     ym mharagraff (4) yn lle “Rhaid i’r gyfran a gymudwyd” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (4A), rhaid i’r gyfran a gymudwyd”;

(d)     ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Yn achos aelod arbennig, rhaid i’r gyfran a gymudwyd beidio â bod yn fwy na—

(a)   y swm a gyfrifir yn unol â pharagraff (4); a

(b)   yr uchafswm a fyddai’n galluogi cyfandaliad i gael ei dalu i’r aelod heb dynnu taliad trethadwy o’r cynllun,

pa un bynnag sy’n is.”;

(e)     ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

(8ZA) Mewn perthynas â phensiwn taladwy i berson sy’n ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod-bensiynwr arbennig, mae paragraffau (6) a (7) o’r rheol hon yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at y diwrnod ymddeol a’r dyddiad effeithiol yn gyfeiriadau at y dyddiad y dechreuir talu’r pensiwn.”;

(f)      ar ôl paragraff (8C) mewnosoder—

(8D) Pan fo paragraff (8B) yn gymwys a’r person sydd â hawlogaeth ganddo i’r pensiwn arall hwnnw yn aelod-bensiynwr arbennig, mae paragraff (8B) yn gymwys os rhoddir “wasanaeth pensiynadwy arbennig” yn lle “wasanaeth pensiynadwy.

Diwygio Rhan 4 (pensiynau goroeswyr)—

4.—(1) Mae Rhan 4 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff (1) o reol 1 (pensiynau ar gyfer priodau, partneriaid sifil a phartneriaid enwebedig sy’n goroesi)—

(a)     yn is-baragraff (a), ar ôl “tân”  mewnosoder “, ac eithrio aelod-ddiffoddwr tân arbennig,”;

(b)     ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)   aelod-ddiffoddwr tân arbennig sy’n bodloni un o’r amodau cymhwyster arbennig ac a fu farw tra bo’n cael ei gyflogi gan awdurdod; neu”;

(c)     ym mharagraff (1)(b)(iii), ar ôl “reolau 1,” mewnosoder “1A,” ac ar ôl “2” mewnosoder “2A,”.

(3) Yn rheol 2 (swm pensiwn goroeswr: cyffredinol), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Yn achos aelod-ddiffoddwr tân sy’n aelod-ddiffoddwr tân arbennig, mae’r rheol hon yn gymwys os rhoddir “un o’r amodau cymhwyster arbennig” yn lle “amod cymhwyster” ym mharagraff (1)(a). 

(4) Yn rheol 3 (swm pensiwn goroeswr: achosion arbennig)—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “am bob blwyddyn y mae oedran y goroeswr yn fwy na deuddeng mlynedd yn hŷn nag oedran yr ymadawedig” rhodder “am bob blwyddyn dros ddeuddeng mlynedd y mae’r ymadawedig yn hŷn na’r goroeswr”;

(b)     ym mharagraff (3), ar ôl “cymhwyster” mewnosoder “neu, yn achos aelod arbennig, yn bodloni amod cymhwyster arbennig”.

(5) Yn rheol 6 (pensiwn plentyn), ym mharagraff (a), ar ôl “amodau cymhwyster” mewnosoder “neu, yn achos aelod arbennig, yn bodloni amod cymhwyster arbennig”.

Diwygio Rhan 5 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth)

5.—(1) Mae Rhan 5 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 1 (grant marwolaeth)—

(a)     ym mharagraff (2), yn lle “(3) i (5)” rhodder “(2A) i (5)”;

(b)     ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Yn achos aelod-ddiffoddwr tân sy’n aelod-ddiffoddwr tân arbennig, mae paragraff (2) yn gymwys os rhoddir y geiriau “y swm yw dwywaith” yn lle “mae’r swm yn dair gwaith”.;

(c)     ym mharagraff (3)—

                           (i)    yn lle “Os” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (3A), os”; a

                         (ii)    yn lle “yw lluoswm y fformiwla ganlynol yn fwy na thair gwaith swm” rhodder “yw lluoswm y fformiwla ganlynol yn swm sy’n fwy na thair gwaith”;

(d)     ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Yn achos aelod-ddiffoddwr tân sy’n aelod-ddiffoddwr tân arbennig, mae paragraff (3) yn gymwys os rhoddir “dwywaith” yn lle “thair gwaith”, “2” yn lle “3” a “gwasanaeth pensiynadwy arbennig yr” yn lle “gwasanaeth pensiynadwy’r” yn y mannau priodol yn y fformiwla.;

(e)     ym mharagraff (4), yn lle “Os oedd yr ymadawedig” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (4A), os oedd yr ymadawedig”;

(f)      ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Yn achos aelod-ddiffoddwr tân sy’n aelod-ddiffoddwr tân arbennig, mae paragraff (4) yn gymwys os rhoddir “dwywaith” yn lle “tair gwaith” yn is-baragraff (a), “2” yn lle “3” a “gwasanaeth pensiynadwy arbennig yr” yn lle “gwasanaeth pensiynadwy’r” yn y mannau priodol yn y fformiwla.;

(g)     ym mharagraff (5), yn lle “Os oedd yr ymadawedig” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (5A), os oedd yr ymadawedig”;

(h)     ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(5A) Yn achos aelod-ddiffoddwr tân sy’n aelod-ddiffoddwr tân arbennig, mae paragraff (5) yn gymwys os rhoddir “dwywaith” yn lle “tair gwaith” yn is-baragraff (b)(i) ac os gwneir yr addasiadau a wnaed i baragraffau (3) a (4) gan baragraffau (3A) a (4A). 

(3) Ar ôl rheol 1 (grant marwolaeth) mewnosoder—

“Grant marwolaeth ar gyfer cyfnod cyfyngedig

1A.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys os oedd person—

(a)   wedi ei gyflogi fel diffoddwr tân wrth gefn ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2000; a

(b)   wedi parhau mewn cyflogaeth o’r fath hyd nes bu farw’r person cyn 6 Ebrill 2006.

(2) Os oedd yr ymadawedig yn briod neu’n aelod o bartneriaeth sifil ar yr adeg y bu farw, caiff priod neu bartner sifil yr ymadawedig wneud cais yn ysgrifenedig i’r awdurdod am grant marwolaeth a rhaid i unrhyw gais o’r fath gael ei wneud yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2015.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os nad oedd yr ymadawedig yn briod nac yn aelod o bartneriaeth sifil ar yr adeg y bu farw, neu os bu farw priod neu bartner sifil y person ers ei farwolaeth, caiff plentyn yr ymadawedig wneud cais yn ysgrifenedig i’r awdurdod am grant marwolaeth a rhaid gwneud unrhyw gais o’r fath yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2015.

(4) Nid yw person yn gymwys i gael grant marwolaeth ar gyfer plentyn o dan y rheol hon oni fyddai’r person wedi bod yn gymwys ar gyfer pensiwn plentyn yn rhinwedd unrhyw beth yn rheol 7 o Ran 4 ar yr adeg y bu farw’r ymadawedig.

(5) Rhaid i’r awdurdod ofyn i’r person sy’n gwneud y cais o dan baragraff (2) neu (3) am ba bynnag wybodaeth a fydd yn ofynnol i alluogi’r awdurdod i ganfod tâl pensiynadwy’r ymadawedig, neu, os na ddarperir unrhyw wybodaeth, rhaid i’r awdurdod ganfod swm y tâl pensiynadwy o’i gofnodion.

(6) Mae swm y grant marwolaeth yn hafal i luoswm 2.5 a swm y tâl pensiynadwy y penderfyna’r awdurdod a gafodd yr ymadawedig yn ystod ei flwyddyn olaf o wasanaeth.

(7) Pan fo’r awdurdod yn penderfynu bod grant marwolaeth yn daladwy, rhaid i’r awdurdod dalu’r grant marwolaeth yn ystod y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cafwyd y cais am grant marwolaeth.

(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9) caiff yr awdurdod dalu’r cyfan neu ran o’r grant marwolaeth, i ba bynnag person neu bersonau sy’n briodol ym marn yr awdurdod.

(9) Rhaid i’r awdurdod beidio â thalu unrhyw ran o’r grant marwolaeth i berson a gollfarnwyd am lofruddiaeth neu ddynladdiad yr ymadawedig ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (10).

(10) Os diddymir collfarn o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (9) yn dilyn apêl, caiff yr awdurdod, oni fydd wedi talu’r grant marwolaeth yn llawn erbyn hynny, dalu’r cyfan neu ran ohono i’r person y diddymwyd ei gollfarn.

(11) Pan fo’r rheol hon yn gymwys, nid oes hawlogaeth i gael grant marwolaeth o dan reol 1 (grant marwolaeth) na grant marwolaeth ar ôl ymddeol o dan reol 2 o’r Rhan hon, nac ychwaith bensiwn goroeswr, pensiwn profedigaeth na phensiwn plentyn o dan Ran 4 (pensiynau goroeswyr). 

Diwygio Rhan 6 (rhannu pensiwn yn sgil ysgaru)

6.—(1) Mae Rhan 6 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 1 (hawlogaeth aelod â chredyd pensiwn i gael pensiwn) ym mharagraff (1)(a), ar ôl “65 oed” mewnosoder “neu 60 oed pan fo’r aelod â debyd pensiwn yn aelod arbennig.”

(3) Yn rheol 3 (cymudo rhan o fuddion credyd pensiwn)—

(a)     ym mharagraff (7), yn lle “Pan ddaw hysbysiad” mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraffau (7A) i (7C), pan ddaw hysbysiad”;

(b)     ar ôl paragraff (7) mewnosoder—

(7A) Pan fo’r aelod â debyd pensiwn mewn perthynas â’r pensiwn sydd i’w gymudo o dan baragraff (1) yn aelod arbennig, rhaid cyfrifo’r cyfandaliad o dan baragraffau (7B) a (7C) ac nid yw is-baragraff (b) o baragraff (7) yn gymwys.

(7B) Yn ddarostyngedig i baragraff (7C), rhaid cyfrifo’r cyfandaliad drwy luosi’r swm o bensiwn y person, a gynrychiolir gan y gyfran a gymudwyd ar yr adeg y daw’r pensiwn yn daladwy o dan reol 1, â’r ffactor a bennir yn y tabl yn Atodiad ZA drwy gyfeirio at oedran y person ar yr adeg honno.

(7C) Rhaid lleihau’r cyfandaliad sy’n daladwy o dan baragraff (7B) i’r graddau sy’n angenrheidiol rhag i’r taliad hwnnw fod yn daliad trethadwy o’r cynllun. 

Diwygio Rhan 8 (dyfarnu cwestiynau ac apelau)

7.—(1) Mae Rhan 8 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 1 (dehongli)  hepgorer—

; ac

ystyr “YMCA” (“IQMP”) yw ymarferydd meddygol cymwysedig annibynnol.

(3) Yn rheol 5 (apelau ynghylch materion eraill), yn lle “Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gweithdrefnau Mewnol i Ddatrys Anghydfodau) 1996” rhodder “Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol Gweithdrefnau Mewnol i Ddatrys Anghydfodau) 2008”.

Diwygio Rhan 9 (adolygu, atal a fforffedu dyfarndaliadau)

8.—(1) Mae Rhan 9 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 4 (atal talu pensiwn gohiriedig yn gynnar) ar ôl “65 oed” mewnosoder “neu 60 oed yn achos aelod arbennig.

Diwygio Rhan 10 (gwasanaeth cymhwysol a gwasanaeth pensiynadwy)

9.—(1) Mae Rhan 10 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 1 (gwasanaeth cymhwysol)—

(a)     ar ddiwedd paragraff (dd) hepgorer y gair “ac”;

(b)     ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

(f)  unrhyw gyfnod o wasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig, y talodd y person gyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn cysylltiad ag ef; ac

(ff)  unrhyw gyfnod o wasanaeth fel diffoddwr tân wrth gefn cyn 1 Gorffennaf 2000 a fyddai, pe bai wedi bod yn gyfnod o wasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig y talwyd cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn perthynas ag ef, wedi bod yn wasanaeth cymhwysol yn unol â pharagraff (f). 

(3) Ym mharagraff (1) o reol 2 (cyfrif gwasanaeth pensiynadwy)—

(a)     yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (6)” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (6) a rheol 2A”;

(b)     ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—

(e) unrhyw gyfnod o wasanaeth a ystyrir yn gronedig yn unol â rheol 16 o Ran 12.

(4) Ar ôl rheol 2 (cyfrif gwasanaeth pensiynadwy) mewnosoder—

“Cyfrif gwasanaeth pensiynadwy arbennig

2A.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), at ddibenion y Cynllun hwn, mae gwasanaeth pensiynadwy arbennig aelod arbennig yn cronni wrth i gyfraniadau pensiwn arbennig neu gyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol gael eu talu, ac mae wedi’i ffurfio o’r canlynol—

(a)   unrhyw gyfnod y mae’r aelod wedi talu cyfraniadau pensiwn arbennig ar ei gyfer fel aelod-ddiffoddwr tân arbennig;

(b)   yn ddarostyngedig i baragraff (4), unrhyw gyfnod yn ystod y cyfnod cyfyngedig y mae hawlogaeth gan yr aelod i’w gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig o dan reol 6A (dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig) o Ran 11;

(c)   unrhyw gyfnod y mae hawlogaeth gan yr aelod i’w gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig o dan reol 5 (cyfrif seibiant mamolaeth, seibiant tadolaeth a seibiant mabwysiadu, etc) o’r Rhan hon neu reolau 5, a 6 i 9 o Ran 11;

(ch) unrhyw gyfnod o wasanaeth pensiynadwy arbennig a gymerwyd i ystyriaeth at ddibenion dyfarndal afiechyd haen is o dan reol 2 o Ran 3 pan fo—

                       (i)  y dyfarndal wedi ei ddileu o dan reol 2 o Ran 9; a

                      (ii)  yr aelod yn aros yn aelod o’r Cynllun hwn (pa un ai fel un o gyflogeion yr awdurdod a wnaeth y dyfarndal ai peidio);

(d)   pan fo gan yr aelod arbennig wasanaeth pensiynadwy a drosglwyddwyd i mewn o gynllun pensiwn arall, y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy arbennig a gyfrifir yn unol â rheol 11(1) (cyfrifo gwasanaeth pensiynadwy a drosglwyddwyd i mewn) o Ran 12;

(dd) os oedd y person yn aelod o Gynllun 1992 ac os trosglwyddwyd y cyfnod o wasanaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer dyfarnu a oedd yn gymwys i gael dyfarndal o dan y Cynllun hwnnw i aelodaeth arbennig y person o’r Cynllun hwn o dan reol 11A o Bennod 3A o Ran 12, y cyfnod hwnnw o wasanaeth;

(e)   os oedd y person yn aelod safonol o’r Cynllun hwn, ac os troswyd y gwasanaeth pensiynadwy yr oedd wedi ei gronni fel aelod safonol o’r Cynllun hwn i aelodaeth y person o’r Cynllun hwn fel aelod arbennig, y gwasanaeth pensiynadwy arbennig y trinnir y person hwnnw fel pe bai wedi ei gronni o dan reol 17 neu 18 o Ran 12;

(f)   os oes gan aelod ddau bensiwn gyda gwasanaeth pensiynadwy arbennig mewn perthynas â’r ail bensiwn o dan reol 7 o Ran 3 (yr hawlogaeth i ddau bensiwn), y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy arbennig a gymerwyd i ystyriaeth wrth gyfrifo’r pensiwn cyntaf o dan y rheol honno;

(ff)  unrhyw gyfnod o absenoldeb heb dâl  y mae’r person wedi talu cyfraniadau pensiwn arbennig mewn cysylltiad ag ef yn unol â rheol 4 o Ran 10.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff gwasanaeth pensiynadwy arbennig aelod arbennig fod yn hwy na 30 mlynedd.

(3) Ni chaiff aelod-ddiffoddwr tân arbennig brynu gwasanaeth ychwanegol, ac eithrio gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig, os byddai’r gwasanaeth hwnnw’n cynyddu gwasanaeth pensiynadwy arbennig yr aelod i fwy na 30 mlynedd erbyn yr oedran ymddeol arferol.

(4) Mae unrhyw gyfnod ychwanegol o wasanaeth a brynwyd, neu sydd wrthi’n cael ei brynu, o dan Ran 11 yn gyfrifadwy fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig os yw’r cyfraniadau pensiwn arbennig priodol wedi’u talu; ond os cyfran yn unig o’r cyfraniadau pensiwn arbennig sy’n daladwy mewn perthynas â chyfnod o wasanaeth ychwanegol sydd wedi ei thalu, dim ond y gyfran gyfatebol o’r cyfnod sydd i’w chyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig.

(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae cyfnod o wasanaeth ychwanegol a brynwyd o dan Ran 11 i’w gymryd i ystyriaeth at ddibenion dyfarnu—

(a)   swm y pensiwn sy’n daladwy i’r aelod-ddiffoddwr tân arbennig neu i’w oroeswyr; a

(b)   faint o wasanaeth y mae aelod-ddiffoddwr tân arbennig wedi ei gronni neu y caiff ei gronni o fewn y Cynllun.

(6) Nid yw cyfnod o wasanaeth ychwanegol a brynwyd o dan reol 5 o Ran 11 i’w gymryd i ystyriaeth wrth asesu—

(a)   swm y pensiwn afiechyd haen uwch a gynhwysir mewn dyfarndal afiechyd haen uwch o dan Ran 3; nac ychwaith

(b)   swm y grant marwolaeth o dan reol 1 o Ran 5.

(7) Yn ddarostyngedig i reol 18 o Ran 12 (trosi aelodaeth o aelodaeth safonol i aelodaeth arbennig – aelodau pensiynwyr arbennig), nid yw cyfnod o wasanaeth sy’n gyfrifadwy fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig yn gyfrifadwy fel gwasanaeth pensiynadwy o dan reol 2 o Ran 10. 

(5) Yn rheol 3 (gwasanaeth anghyfrifadwy), ar ôl “yn gyfrifadwy fel gwasanaeth pensiynadwy” mewnosoder “neu fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig”.

(6) Yn rheol 4 (cyfrif cyfnod o absenoldeb di-dâl) ar ôl “gyfrif yn wasanaeth pensiynadwy” mewnosoder “neu’n wasanaeth pensiynadwy arbennig”.

(7) Yn rheol 5 (cyfrif seibiant mamolaeth, seibiant tadolaeth a seibiant mabwysiadu, etc), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Os oedd yr aelod-ddiffoddwr tân yn aelod-ddiffoddwr tân arbennig yn union cyn unrhyw gyfnod yr oedd hawlogaeth ganddo i’w gyfrif o dan y rheol hon, mae hawlogaeth ganddo i gyfrif y cyfnod hwnnw fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig. 

(8) Yn rheol 6 (cyfrifo gwasanaeth pensiynadwy)—

(a)     ym mharagraff (5), yn lle “(A/B) x 365,” rhodder “A/B”; a

(b)     ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(7) Pan fo’r aelod-ddiffoddwr tân yn aelod-ddiffoddwr tân arbennig, mae’r rheol hon yn gymwys os rhoddir “gwasanaeth pensiynadwy arbennig” yn lle “gwasanaeth pensiynadwy” a “rheol 2A(2) a (3)” yn lle “rheol 2(2) a (3)”. 

Diwygio Rhan 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol)

10.—(1) Mae Rhan 11 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 1 (tâl pensiynadwy)—

(a)     ym mharagraff (1)—

                           (i)    yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (3)” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (6)”;

                         (ii)    yn is-baragraff (a) hepgorer “heblaw taliadau mewn cysylltiad â datblygiad proffesiynol parhaus yr aelod-ddiffoddwr tân  (gweler rheol 7B o Ran 3), a”; ac

                       (iii)    ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)   swm (os oes un) unrhyw fuddion sy’n bensiynadwy o dan reol 7B(1) o Ran 3, a;

(b)     ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) Os oes unrhyw lwfans neu atodiad, cyn 1 Gorffennaf 2013 ac ar ôl y dyddiad hwnnw, yn cael ei dalu i aelod-ddiffoddwr tân, ac a drinnir gan awdurdod fel pe bai’n bensiynadwy, ond nad yw—

(a)   yn dâl pensiynadwy o fewn ystyr paragraff (1)(a);

(b)   yn fudd pensiwn ychwanegol o dan reol 7A o Ran 3 (gwasanaeth hir); nac

(c)   yn daliad mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus diffoddwr tân o dan reol 7B,

rhaid parhau i drin y lwfans neu’r atodiad hwnnw fel pe bai’n bensiynadwy cyhyd ag y bo’r diffoddwr tân yn parhau i’w gael heb unrhyw doriad yn y taliadau.

(3) Yn rheol 2 (tâl pensiynadwy terfynol)—

(a)     ym mharagraff (1A), yn lle “swm mewn cysylltiad â datblygiad proffesiynol parhaus yr aelod-ddiffoddwr tân (gweler rheol 7B o Ran 3),” rhodder “swm sy’n daladwy i’r aelod-ddiffoddwr tân mewn cysylltiad â’r buddion o fewn rheol 7B o Ran 3”.

(b)     ar ôl paragraff (7) mewnosoder—

(8) Yn achos aelod arbennig, mae paragraff (2)(b) yn gymwys os rhoddir “gwasanaeth pensiynadwy arbennig yr” yn lle “gwasanaeth pensiynadwy’r”.

(9) Yn achos person a ymunodd â’r Cynllun hwn fel aelod gohiriedig arbennig neu aelod-bensiynwr arbennig, tâl pensiynadwy terfynol y person yw’r swm a ddyfernir gan yr awdurdod ac a nodir yn yr hysbysiad a roddir gan yr awdurdod o dan reol 5A(13) o’r Rhan hon.

(4) Yn rheol 3 (cyfraniadau pensiwn)—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “Rhaid i aelod-ddiffoddwr tân” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (1A), rhaid i aelod-ddiffoddwr tân”;

(b)     ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Rhaid i aelod-ddiffoddwr tân sy’n aelod arbennig dalu cyfraniadau pensiwn i’r awdurdod ar y gyfradd o 11% o dâl pensiynadwy’r aelod mewn perthynas â chyfnod sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2012 ac mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2012 neu ar ôl hynny, ar gyfradd y ganran o dâl pensiynadwy’r aelod ar gyfer y cyfnod o dan sylw a bennir yn y Tabl yn Atodiad AB1.; ac

(c)     ym mharagraff (2), ar ôl  “baragraff (1)” mewnosoder “neu (1A)”.

(5) Yn rheol 4 (cyfraniadau pensiwn dewisol yn ystod seibiant mamolaeth a seibiant mabwysiadu)—

(a)     ym mharagraff (1)(a), ar ôl  “gwasanaeth pensiynadwy o dan reol 2 o Ran 10” mewnosoder “neu fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig o dan reol 2A o Ran 10”;

(b)     ym mharagraff (5), ar ôl  “gwasanaeth pensiynadwy” mewnosoder “neu fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig”.

(6) Yn rheol 5 (prynu gwasanaeth ychwanegol) ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(7) Yn achos aelod-ddiffoddwr tân arbennig—

(a)   mae’r rheol hon yn gymwys—

                       (i)  ym mharagraff (2)(c) os rhoddir “30 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy arbennig” yn lle “40 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy”;

                      (ii)  ym mharagraff (3) os rhoddir “gwasanaeth pensiynadwy arbennig y person” yn lle “gwasanaeth pensiynadwy’r person” a “30 mlynedd” yn lle “40 mlynedd”;

(b)   mewn perthynas â pharagraff (4)(a) rhaid i  Actiwari’r Cynllun ddarparu tablau gwahanol ar gyfer aelodau arbennig ac ym mharagraff (4)(b) rhaid i ddyfarniad Actiwari’r Cynllun gymryd i ystyriaeth y pryniant a wneir gan aelod arbennig.

(7) Ar ôl rheol 5 mewnosoder—

“Prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig

5A.—(1) Caiff person sy’n bodloni’r amodau a bennir ym mharagraff (2), yn unol â darpariaethau canlynol y Bennod hon, ddewis talu cyfraniadau pensiwn mewn perthynas â’i wasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig.

(2) Yr amodau yw bod—

(a)   hawlogaeth gan berson i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig;

(b)   y gwasanaeth yn wasanaeth—

                       (i)  fel diffoddwr tân wrth gefn; neu

                      (ii)  fel diffoddwr tân rheolaidd pan fo’r person wedi dechrau ei gyflogaeth fel diffoddwr tân rheolaidd ar ôl 5 Ebrill 2006, yn union ar ôl terfynu ei gyflogaeth fel diffoddwr tân wrth gefn; neu

                     (iii)  gyda chytundeb yr awdurdod, fel diffoddwr tân rheolaidd, ond nid fel diffoddwr tân wrth gefn, pan fo’r person hwnnw wedi bod yn gyflogedig gan awdurdod fel diffoddwr tân wrth gefn ac wedyn y gwnaed hi’n ofynnol gan yr awdurdod hwnnw ar ôl 5 Ebrill 2006 iddo barhau mewn cyflogaeth fel diffoddwr tân wrth gefn tra bo’n ymgymryd â chyflogaeth fel diffoddwr tân rheolaidd.

(3) Pan fo paragraff (1) yn gymwys—

(a)   yn ddarostyngedig i reol 6A(11) o’r Rhan hon, rhaid talu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn cysylltiad â gwasanaeth y person yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol; a

(b)   rhaid talu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol am y cyfnod sy’n ofynnol gan reol 6A(12) o’r Rhan hon, os yw’r person wedi dewis trosglwyddo’i hawliau cronedig yng Nghynllun 1992 i’w aelodaeth arbennig,

ond nid yw’r cyfnod o wasanaeth y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) neu (b), yn ddarostyngedig i reolau 11A neu 18 o Ran 12, yn cynnwys unrhyw gyfnod o wasanaeth y talodd y person gyfraniadau pensiwn mewn cysylltiad ag ef o dan Gynllun 1992 neu o dan y Cynllun hwn fel aelod safonol.

(4) O fewn dau fis ar ôl y dyddiad cychwynnol, rhaid i’r awdurdod wneud pob ymdrech resymol i hysbysu’r holl gyflogeion presennol a chyn-gyflogeion, a allai fod â hawlogaeth i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig, i’r perwyl y gallent fod â hawlogaeth o’r fath.

(5) O fewn dau fis ar ôl cael yr hysbysiad ym mharagraff (4), neu os na chafwyd hysbysiad, o fewn pedwar mis ar ôl y dyddiad cychwynnol, caiff person wneud cais i’r awdurdod a fu’n ei gyflogi mewn gwasanaeth sy’n dod o fewn paragraff (2) uchod, am ddatganiad o’r gwasanaeth y gallai fod ganddo hawlogaeth mewn cysylltiad ag ef i dalu cyfraniadau o dan y rheol hon, a’r cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol y byddai’n ofynnol iddo’u talu mewn perthynas â’r gwasanaeth.

(6) Rhaid i gais a wneir o dan baragraff (5) fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo ddatgan—

(a)   y dyddiad pan ddechreuodd y ceisydd ei gyflogaeth fel diffoddwr tân wrth gefn;

(b)   os yw’r ceisydd wedi gadael y gyflogaeth honno, dyddiad yr ymadawiad;

(c)   os dechreuodd y ceisydd gyflogaeth fel diffoddwr tân rheolaidd, y dyddiad y dechreuodd y gyflogaeth honno;

(ch) os ymunodd y ceisydd â’r Cynllun hwn fel aelod safonol neu os ymunodd â Chynllun 1992, y dyddiad yr ymunodd â’r Cynllun ac, os digwyddodd hynny, y dyddiad y dewisodd beidio â thalu cyfraniadau pensiwn o dan reol 5 o Ran 2 o’r Cynllun hwn neu o dan reol G3 o Gynllun 1992 (yn ôl fel y digwydd).

(7) Rhaid i’r awdurdod, o’i gofnodion, ddyfarnu cyfnod gwasanaeth y person yn ystod y cyfnod cyfyngedig.

(8) Pan na all awdurdod, o’i gofnodion, ddyfarnu cyfnod gwasanaeth y person yn ystod y cyfnod cyfyngedig, caiff y person ddarparu dogfennau i’r awdurdod i’w gynorthwyo i ddyfarnu cyfnod gwasanaeth y person yn ystod y cyfnod cyfyngedig a rhaid i’r awdurdod ddyfarnu cyfnod gwasanaeth y person o’r dogfennau hynny.

(9) Pan na all awdurdod ddyfarnu cyfnod gwasanaeth y person yn ystod y cyfnod cyfyngedig, ac os nad oes gan yr awdurdod gofnodion o dâl y person am y cyfnod hwnnw ac na all y person ddarparu’r dogfennau angenrheidiol i’r awdurdod, caiff yr awdurdod amcangyfrif tâl pensiynadwy’r person am y cyfnod hwnnw o’r cofnodion sydd yn ei feddiant ac, yn benodol, caiff amcangyfrif hynny ar sail cyfartaledd y data tâl diweddar ar gyfer diffoddwyr tân wrth gefn yn yr un orsaf neu orsafoedd ag y lleolwyd y person ynddi neu ynddynt yn ystod y cyfnod perthnasol.

(10) Wedi i’r awdurdod amcangyfrif tâl y person yn unol â pharagraff (9), rhaid i’r awdurdod ddyfarnu cyfnod gwasanaeth pensiynadwy’r person hwnnw yn ystod y cyfnod cyfyngedig.

(11) Pan fo’r gwasanaeth yn wasanaeth fel diffoddwr tân wrth gefn, rhaid i’r  awdurdod ddyfarnu gwasanaeth pensiynadwy wrth gefn y person yn ystod y cyfnod cyfyngedig drwy gyfrifo’r un gyfran o wasanaeth amser-cyflawn â’r gyfran y mae tâl pensiynadwy gwirioneddol y person neu, yn ôl fel y digwydd, tâl pensiynadwy’r person fel y’i hamcangyfrifwyd gan yr awdurdod o dan baragraff (9), yn ei chynrychioli o dâl cyfeirio’r person am bob blwyddyn o wasanaeth yn ystod y cyfnod hwnnw.

(12) Rhaid i’r awdurdod gyfrifo swm y cyfraniadau pensiwn arbennig sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaeth pensiynadwy arbennig yn ystod y cyfnod cyfyngedig drwy gymhwyso cyfradd a ddyfarnwyd gan Actiwari’r Cynllun gan roi sylw i’r gyfradd sy’n ofynnol gan baragraff (1A) o reol 3 (cyfraniadau pensiwn) ar gyfer y cyfnod priodol, i dâl pensiynadwy’r person.

(13) O fewn pedwar mis ar ôl cael cais o dan baragraff (5), rhaid i’r awdurdod  roi i’r ceisydd hysbysiad a fydd yn nodi’r cyfnod o wasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig y caiff y ceisydd ei brynu, swm y cyfraniadau pensiwn arbennig  sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cyfnod arbennig gorfodol, swm y cyfraniad pensiwn arbennig sy’n daladwy mewn cysylltiad â gweddill gwasanaeth y ceisydd yn ystod y cyfnod cyfyngedig, y tâl pensiynadwy ac, mewn achosion priodol, y tâl pensiynadwy terfynol y dyfarnodd yr awdurdod a dalwyd yn ystod y cyfnod cyfyngedig.

(14) Pan na fo’n rhesymol ymarferol i gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion a nodir yn y rheol hon o fewn y cyfnod a bennir, rhaid i’r awdurdod neu’r ceisydd yn ôl fel y digwydd gydymffurfio â’r gofyniad hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.

(8) Yn rheol 6(1) (dewis prynu gwasanaeth ychwanegol) yn lle “O ran dewisiad i brynu” rhodder “Yn ddarostyngedig i reol 6A, o ran dewisiad i brynu”.

(9) Ar ôl rheol 6 mewnosoder—

Dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig

6A.—(1) Rhaid i berson sy’n bwriadu ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod-bensiynwr arbennig ddewis talu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn cysylltiad â’i wasanaeth yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol.

(2) Rhaid i aelod-bensiynwr arbennig dalu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol drwy gyfraniad ar ffurf cyfandaliad, y caiff yr aelod-bensiynwr arbennig ofyn i’r awdurdod ei ddidynnu o unrhyw gyfandaliad y mae hawlogaeth ganddo i’w gael o dan y Cynllun hwn—

(a)   yn unol â hysbysiad i gymudo cyfran o’i bensiwn  o dan reol 9 (cymudo: cyffredinol) o Ran 3;

(b)   o dan baragraff (8) o reol 1A (pensiwn cyffredin aelod arbennig) neu o dan baragraff (12) o reol 2A (dyfarndal ôl-weithredol yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd) o Ran 3.

(3) Rhaid i berson sy’n bwriadu ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod gohiriedig arbennig ddewis talu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn cysylltiad â’i wasanaeth yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol.

(4) Caniateir talu’r cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol ar ffurf cyfraniadau cyfnodol y mae’n rhaid eu cyfrifo yn unol â thablau a ddarperir gan Actiwari’r Cynllun, er mwyn diwallu atebolrwydd y person dros gyfnod o 10 mlynedd, neu caniateir talu cyfraniad ar ffurf cyfandaliad.

(5) Rhaid i aelod gohiriedig arbennig beidio â thalu’r cyfraniadau cyfnodol y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) ar y dyddiad y bydd pensiwn gohiriedig arbennig yr aelod yn dod yn daladwy, a chaiff wedyn, o fewn tri mis i’r dyddiad hwnnw, dalu cyfandaliad o swm sy’n hafal i’r cyfraniadau y byddid fel arall wedi eu talu fel y’u cyfrifwyd yn unol â thablau a ddarperir gan Actiwari’r Cynllun.

(6) Pan fo paragraff (5) yn gymwys, caiff aelod gohiriedig arbennig dalu’r cyfan neu ran o’r cyfandaliad sy’n ofynnol gan yr is-baragraff hwnnw drwy ddidynnu o unrhyw gyfandaliad y gallai’r aelod fod â hawlogaeth i’w gael yn unol â hysbysiad i gymudo cyfran o’i bensiwn o dan reol 9 (cymudo: cyffredinol) neu reol 10 (cymudo: pensiynau bach) o Ran 3.

(7) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (11) a (12), rhaid i berson sy’n bwriadu ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod-ddiffoddwr tân arbennig ddewis talu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn cysylltiad â’i wasanaeth yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol.

(8) Caniateir talu’r cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol ar ffurf cyfraniadau cyfnodol y mae’n rhaid eu cyfrifo yn unol â thablau a ddarperir gan Actiwari’r Cynllun, er mwyn diwallu atebolrwydd yr aelod dros gyfnod o 10 mlynedd, neu caniateir talu cyfraniad ar ffurf cyfandaliad.

(9) Os yw aelod-ddiffoddwr tân arbennig yn gwneud dewisiad cyfraniadau, neu’n ymddeol, rhaid i’r aelod beidio â thalu cyfraniadau cyfnodol, a chaiff yr aelod wedyn, o fewn tri mis i ddyddiad y dewisiad cyfraniadau, dalu cyfandaliad o swm sy’n hafal i’r cyfraniadau y byddid fel arall wedi eu talu fel y’u cyfrifwyd yn unol â thablau a ddarparwyd gan Actiwari’r Cynllun.

(10) Pan fo paragraff (9) yn gymwys fel y gallai cyfandaliad fod yn daladwy o ganlyniad i ymddeoliad yr aelod, caiff yr aelod dalu’r cyfan neu ran o’r cyfandaliad sy’n ofynnol gan yr is-baragraff hwnnw drwy ddidynnu o unrhyw gyfandaliad y gallai’r aelod fod â hawlogaeth i’w gael yn unol â hysbysiad i gymudo cyfran o’i bensiwn o dan reol 9 (cymudo: cyffredinol) neu reol 10 (cymudo: pensiynau bach) o Ran 3.

(11) Rhaid i aelod-ddiffoddwr tân arbennig sydd, o dan baragraff (5) o reol 11A o Ran 12, yn dewis trosglwyddo’i hawliau cronedig yng Nghynllun 1992 i’w aelodaeth arbennig o’r Cynllun hwn, dalu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol ar gyfer ei gyfnod o wasanaeth yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol o’r diweddaraf o’r dyddiad y daeth gwasanaeth pensiynadwy’r aelod o dan Gynllun 1992 i ben, ac 1 Gorffennaf 2000.

(12) Rhaid i aelod-ddiffoddwr tân arbennig sydd, o dan baragraff (5) o reol 16 o Ran 12, yn dewis trosglwyddo’i hawliau cronedig fel aelod-ddiffoddwr tân arbennig i’w aelodaeth safonol, dalu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol ar gyfer ei gyfnod o wasanaeth yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol cyn 6 Ebrill 2006, ac o’r dyddiad hwnnw ymlaen rhaid talu cyfraniadau pensiwn fel pe bai’r aelod wedi bod yn aelod safonol, tan y dyddiad yr ymunodd yr aelod â’r Cynllun hwn fel aelod safonol.

(13) Mae llog yn daladwy mewn cysylltiad â’r cyfraniad pensiwn arbennig sy’n ofynnol i’w dalu mewn cysylltiad â gwasanaeth aelod arbennig yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol fel a ganlyn—

(a)   at ddibenion cyfrifo’r llog o dan y paragraff hwn, rhagdybir mewn cysylltiad â’r cyfnod arbennig gorfodol fod cyfraniadau pensiwn yn daladwy drwy gyfraniadau cyfnodol misol o’r dyddiad talu cyntaf yn dilyn dechrau’r cyfnod arbennig gorfodol;

(b)   mae llog yn dechrau cronni o’r dyddiad y byddai’r cyfraniad misol cyntaf wedi ei dalu yn unol ag is-baragraff (a) ac mae’n peidio â chronni ar y dyddiad y mae’r cyfraniad ar ffurf cyfandaliad neu’r cyfraniad cyfnodol terfynol yn cael ei dalu yn unol â pharagraffau (2), (4), (5) ac (8) o’r rheol hon;

(c)   mewn perthynas â chyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol a delir drwy gyfraniad ar ffurf cyfandaliad, rhaid cyfrifo’r llog drwy gymhwyso’r gyfradd llog gynt i’r cyfraniad sy’n daladwy yn unol â rheol 3(1A) o Ran 11 gyda’r adlog misol rhwng y mis y byddai bob cyfraniad wedi ei wneud yn unol ag is-baragraff (a) hyd y dyddiad cyfrifo;

(ch) mewn perthynas â chyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol a delir drwy gyfraniad cyfnodol—

                       (i)  rhaid cyfrifo’r llog yn yr un modd ag ar gyfer cyfraniad ar ffurf cyfandaliad o dan is-baragraff (c);

                      (ii)  rhaid addasu swm y llog sy’n daladwy wedyn yn unol â thablau a ddarperir gan Actiwari’r Cynllun er mwyn galluogi llog ar gyfradd llog y dyfodol mewn perthynas â’r cyfnod o’r dyddiad cyfrifo hyd at y dyddiad y telir y cyfraniad, er mwyn diwallu atebolrwydd dros gyfnod o ddeng mlynedd;

(d)   at ddiben y rheol hon—

ystyr “cyfradd llog y dyfodol” (“future interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth ag 1.5% plws mynegai arenillion Gilt 10 mlynedd y DU Actiwariaid FTSE llai cyfartaledd mynegai Gilt 5 i 15 mlynedd cysylltiedig â mynegai y DU Actiwariaid FTSE gyda chyfraddau chwyddiant tybiedig o 0% a 5%;

ystyr “cyfradd llog gynt” (“past interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth â’r llog a oedd ar gael ar y diweddaraf o’r tystysgrifau cynilo llog sefydlog pum mlynedd gan y Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sydd ar gael ar y 15fed diwrnod o bob mis a fyddai wedi bod yn gymwys i’r cyfnod o dan sylw; ac

ystyr “y dyddiad cyfrifo” (“calculation date”) yw—

                       (i)  yn achos cyfraniad ar ffurf cyfandaliad, y dyddiad y telir y cyfandaliad; a

                      (ii)  yn achos talu’r cyfraniad pensiwn cyfnod arbennig gorfodol drwy gyfraniad cyfnodol, y dyddiad pan ymunodd yr aelod â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig.

Dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig: darpariaeth atodol

6B.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (12), rhaid gwneud dewisiad o dan reol 6A drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod yn ystod y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddodd yr awdurdod hysbysiad o dan reol 5A(13).

(2) Wrth baratoi’r tablau sy’n ofynnol gan baragraffau (5) a (9) o reol 6A rhaid i Actiwari’r Cynllun roi sylw i’r gyfradd gyfrannu sy’n briodoladwy i’r cyfnod y mae’r cyfraniad yn ymwneud ag ef, a rhaid iddo ddefnyddio pa bynnag ffactorau eraill yr ystyria Actiwari’r Cynllun yn briodol.

(3) Y cyfnod o wasanaeth person y cyfeirir ato ym mharagraffau (1), (3) neu (7) o reol 6A yw’r rhan honno o’r gwasanaeth a nodir yn hysbysiad yr awdurdod i’r person o dan reol 5A(13) y mae’r person yn dewis talu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn perthynas â hi, o ddyddiad a ddewiswyd gan y person cyn 6 Ebrill 2006, neu’r dyddiad sy’n gymwys o dan reol 6A(11), ac yn diweddu ar y dyddiad cynharaf o’r canlynol: y dyddiad yr ymunodd y person â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig neu aelod safonol, y dyddiad, os yw’n gymwys, y’i diswyddwyd neu ymddeolodd o gyflogaeth fel diffoddwr tân rheolaidd neu wrth gefn a 31 Mawrth 2015.

(4) Pan fo’n ofynnol i berson dalu cyfraniad ar ffurf cyfandaliad o dan baragraff (2), neu y mae wedi dewis gwneud hynny o dan baragraffau (4) neu (8) o reol 6A, ac nad yw’r swm hwnnw wedi ei dalu o fewn chwe mis ar ôl dewisiad y person o dan baragraffau (1), (4) neu (8), neu’r fath gyfnod hwy y caiff yr awdurdod hysbysu’r person yn ysgrifenedig amdano, rhaid trin y dewisiad, o dan baragraffau (1), (4) neu (8) (yn ôl fel y digwydd) fel pe na bai wedi ei wneud.

(5) Pan fo person wedi dewis talu cyfraniadau cyfnodol o dan baragraffau (4) neu (8) o reol 6A—

(a)   pan na fo’r cyfraniad cyntaf wedi ei dalu o fewn tri mis ar ôl y dewisiad o dan baragraffau (4) neu (8), neu’r fath gyfnod hwy y caiff yr awdurdod hysbysu’r person yn ysgrifenedig amdano, rhaid trin y dewisiad fel pe na bai wedi ei wneud;

(b)   pan na fo tri neu ragor o gyfraniadau cyfnodol yn olynol wedi eu talu a’r swm yn ddyledus, rhaid i’r awdurdod ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i’r aelod arbennig dalu’r cyfraniadau cyfnodol sy’n ddyledus o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad i’r aelod arbennig, ac i ailgychwyn y cyfraniadau cyfnodol;

(c)   os na thelir y swm sy’n ddyledus o fewn y cyfnod hwnnw, neu os na wneir cyfraniad cyfnodol ar ôl hynny o fewn 28 o ddiwrnodau o fod yn ddyledus, rhaid trin yr aelod arbennig fel pe bai wedi peidio â thalu cyfraniadau cyfnod arbennig gorfodol o’r dyddiad y cafwyd y cyfraniad diwethaf ac ni chaiff ailgychwyn y taliad o’r cyfraniadau hynny.

(6) Yn ddarostyngedig i baragraffau (8) ac (11), pan fo paragraffau (5) neu (9) o reol 6A yn gymwys, ac nad yw’r aelod gohiriedig arbennig neu’r aelod-ddiffoddwr tân arbennig, yn ôl fel y digwydd, wedi talu’r cyfandaliad o fewn y cyfnod a bennir yn y paragraff hwnnw, rhaid trin y cyfnod o wasanaeth a brynwyd fel pe bai'r cyfnod a ganfyddir yn unol â’r fformiwla—

A x (B/C)

pan—

A yw nifer y 45fed rannau o wasanaeth pensiynadwy arbennig y dewisodd yr aelod eu prynu,

B yw’r cyfnod y gwnaed cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol  mewn cysylltiad ag ef yn unol â’r dewisiad, ac

C yw’r cyfnod y byddid wedi gwneud cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn cysylltiad ag ef yn unol â’r dewisiad.

(7) Yn achos diffoddwr tân y mae paragraff (11) o reol 6A yn gymwys iddo—

(a)   rhaid cyfrifo  cyfraniadau pensiwn fel aelod safonol yn ystod y cyfnod cyfyngedig fel pe baent yn gyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol o dan baragraff (8) o reol 6A;

(b)   pan fo paragraff (9) o reol 6A yn gymwys, ac nad yw’r aelod-ddiffoddwr tân arbennig yn talu’r cyfandaliad o fewn y cyfnod a bennir yn y paragraff hwnnw, rhaid trin y cyfnod o wasanaeth a brynwyd fel aelod safonol fel pe bai’r cyfnod a ganfyddir yn unol â’r fformiwla—

       A x (B/C)

pan—

A yw nifer y 60fed rannau o wasanaeth pensiynadwy fel aelod safonol y dewisodd yr aelod eu prynu,

B yw’r cyfnod y talwyd cyfraniadau pensiwn fel aelod safonol mewn perthynas ag ef yn ystod y cyfnod cyfyngedig, ac

C yw’r cyfnod y byddid wedi gwneud cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn cysylltiad ag ef yn unol â’r dewisiad.

(8) Pan fo cyfraniadau cyfnodol yn peidio fel y crybwyllir ym mharagraffau (5) neu (9) o reol 6A wrth i bensiwn ddod yn daladwy, rhaid peidio â thalu’r pensiwn cyn y cynharaf o’r canlynol: y dyddiad y bydd y cyfandaliad a grybwyllir yn y paragraff hwnnw wedi ei dalu, neu’r aelod arbennig wedi rhoi hysbysiad i’r perwyl na fydd yn talu’r cyfandaliad, neu’r cyfnod a grybwyllir yn y paragraff hwnnw wedi dod i ben.

(9) Pan brynir gwasanaeth drwy dalu cyfraniadau cyfnodol o dan baragraffau (4) neu (8) o reol 6A, mae’r gwasanaeth yn cronni ar ddiwedd pob blwyddyn yn unol â’r cyfraniadau a dalwyd.

(10) Mae dewisiad o dan reol 6A—

(a)   yn cael effaith ar y diwrnod y bydd yr awdurdod yn cael yr hysbysiad o’r dewisiad; a

(b)   yn annirymadwy, unwaith y bydd y cyfandaliad wedi ei dalu neu, yn ôl fel y digwydd, y cyfraniad cyfnodol cyntaf wedi ei dalu.

(11) Os bydd farw’r aelod arbennig cyn bo’r cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol sy’n ddyledus yn unol â rheol 6A wedi eu talu, rhaid trin y cyfraniadau hynny fel pe baent wedi eu talu a rhaid trin gwasanaeth yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig.

(12) Pan na fo’n rhesymol ymarferol cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (1) o fewn y cyfnod penodedig, rhaid rhoi’r dewisiad drwy hysbysiad ysgrifenedig cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw ond mewn unrhyw achos ni chaiff gymryd effaith ar ôl 31 Rhagfyr 2015.”

(10) Yn rheol 7 (hyd y cyfnod talu cyfraniadau cyfnodol a rhoi terfyn cyn pryd ar eu talu)—

(a)     ym mharagraff (3), ar ôl “Pan fo is-baragraff i baragraff (2) yn gymwys” mewnosoder “ac nad yw’r gwasanaeth ychwanegol yn wasanaeth pensiynadwy arbennig”;

(b)     ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Pan fo is-baragraff o baragraff (2) yn gymwys a’r gwasanaeth ychwanegol yn wasanaeth pensiynadwy arbennig, mae paragraff (3) yn gymwys os rhoddir y canlynol yn lle’r diffiniad o “A”—

“A” yw nifer y 45fed rannau o’r gwasanaeth pensiynadwy arbennig ychwanegol y dewisodd yr aelod arbennig ei brynu.;

(c)     ym mharagraff (4)—

                           (i)    ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)   pan fo’r person yn gymwys i gael pensiwn cyffredin aelod arbennig, fel rhan o’r gwasanaeth pensiynadwy arbennig a ddefnyddir i gyfrifo pensiwn cyffredin aelod arbennig;

                         (ii)    yn is-baragraff (b), ar ôl “gwasanaeth pensiynadwy” mewnosoder “neu’r gwasanaeth pensiynadwy arbennig”; a

(d)     ym mharagraff (5), ar ôl “gwasanaeth pensiynadwy” mewnosoder “neu’r gwasanaeth pensiynadwy arbennig”.

(11) Yn rheol 8 (rhoi’r gorau i gyfraniadau cyfnodol a’u hailgychwyn)—

(a)     ym mharagraff (4), yn lle “Mae’r cyfnod o wasanaeth ychwanegol” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (4A), mae’r cyfnod o wasanaeth ychwanegol”;

(b)     ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Os yw’r aelod-ddiffoddwr tân yn aelod arbennig, ym mharagraff (4) “A” yw nifer y 45fed rannau o’r gwasanaeth pensiynadwy arbennig ychwanegol y dewisodd yr aelod arbennig ei brynu. 

(12) Yn rheol 9(1) (cyfraniadau cyfnodol ar gyfer cyfnodau o wasanaeth di-dâl neu absenoldeb di-dâl) ar ôl “wasanaeth pensiynadwy” mewnosoder “neu wasanaeth pensiynadwy arbennig”.

(13) Yn rheol 10 (effaith prynu gwasanaeth ychwanegol drwy dalu cyfandaliad), ym mharagraff (1), yn lle “gwasanaeth pensiynadwy’r” rhodder “gwasanaeth pensiynadwy neu wasanaeth pensiynadwy arbennig yr”; ac ym mharagraff (2), ar ôl “gwasanaeth pensiynadwy” mewnosoder “neu’r gwasanaeth pensiynadwy arbennig”.

Diwygio Rhan 12 (trosglwyddiadau i mewn ac allan o’r Cynllun)

11.—(1) Mae Rhan 12 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 2(3) (yr hawlogaeth i gael taliad gwerth trosglwyddo) ar ôl “gwasanaeth pensiynadwy” rhodder “neu’r gwasanaeth pensiynadwy arbennig”.

(3) Yn rheol 4(5)(b) (ceisiadau am daliadau gwerth trosglwyddo) yn lle “gwasanaeth pensiynadwy’r” rhodder “gwasanaeth pensiynadwy neu wasanaeth pensiynadwy arbennig yr”.

(4) Yn rheol 6 (cyfrifo symiau taliadau gwerth trosglwyddo)—

(a)     ym mharagraff (1), ar ôl “y dyddiad gwarantu” mewnosoder “, a rhaid darparu canllawiau a thablau gwahanol ar gyfer aelodau safonol ac aelodau arbennig”;

(b)     ym mharagraff (4), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

, ac

(c)   unrhyw gyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol”.

(5) Yn rheol 8(3) (ceisiadau am dderbyn taliad gwerth trosglwyddo o gynllun arall) ar ôl “gwasanaeth pensiynadwy” mewnosoder “neu fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig”.

(6) Yn rheol 9 (y weithdrefn ar gyfer ceisiadau o dan reol 8)—

(a)     ym mharagraff (1)(c) yn lle “baragraff (2)” rhodder “baragraffau (2) i  (4)”;

(b)     ym mharagraff (2) yn lle “Yn achos” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (4), yn achos”;

(c)     ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Pan wneir y cais o dan reol 8 gan aelod-ddiffoddwr tân arbennig, nad oedd eisoes yn aelod o’r Cynllun hwn pan wnaeth yr aelod hwnnw y dewisiad i ddod yn aelod-ddiffoddwr tân arbennig, nid yw is-baragraff (c) o baragraff (1) na pharagraff (2) yn gymwys.

(4) Yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (3) ac yn achos taliad gwerth trosglwyddo sydd i’w wneud o dan drefniadau trosglwyddo sector cyhoeddus, rhaid i’r cais o dan reol 8 gael ei wneud gan y person hwnnw  yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd yr awdurdod i’r ceisydd yr hysbysiad sy’n ofynnol gan reol 5A(13) o Ran 11. 

(7) Yn rheol 10(2) (derbyn taliadau gwerth trosglwyddo) ar ôl “yn wasanaeth pensiynadwy” mewnosoder “neu’n wasanaeth pensiynadwy arbennig”.

(8) Yn rheol 11 (cyfrifo gwasanaeth pensiynadwy a drosglwyddwyd i mewn)—

(a)     ym mharagraff (1), ar ôl “o wasanaeth pensiynadwy” mewnosoder “neu o wasanaeth pensiynadwy arbennig”;

(b)     ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Rhaid i Actiwari’r Cynllun ddarparu canllawiau a thablau gwahanol at ddiben y rheol hon yn achos aelodau arbennig. 

(9) Ar ôl Pennod 3 mewnosoder—

PENNOD 3A

TROSGLWYDDIADAU I AELODAETH ARBENNIG

Trosglwyddo hawliau crynodedig o dan Gynllun 1992 i aelodaeth arbennig o’r Cynllun hwn

11A.—(1) Caiff person sy’n aelod gohiriedig o Gynllun 1992 ac a ddechreuodd gyflogaeth fel diffoddwr tân wrth gefn yn union ar ôl terfynu ei gyflogaeth fel diffoddwr tân rheolaidd ac sydd â hawlogaeth i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod-ddiffoddwr tân arbennig, wneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod sy’n ei gyflogi am ddatganiad o faint o wasanaeth y byddid yn ei drin fel pe bai wedi cronni pe bai’r person yn dewis trosglwyddo ei hawliau cronedig o dan Gynllun 1992 i’w aelodaeth arbennig o’r Cynllun hwn.

(2) Os gwneir y cais o dan baragraff (1) yr un pryd â chais o dan reol 5A(5) (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig) o Ran 11 rhaid i’r awdurdod ddarparu datganiad o faint o wasanaeth y byddid yn ei drin fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig pe bai’r ceisydd yn gwneud dewisiad i drosglwyddo ei hawliau cronedig o dan Gynllun 1992 i’w aelodaeth arbennig o’r Cynllun hwn, yr un pryd ag y rhoddir hysbysiad gan yr awdurdod o dan reol 5A(13) o Ran 11.

(3) Os na wneir cais o dan baragraff (1) ar yr adeg a bennir ym mharagraff (2), rhaid ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd yr awdurdod yr hysbysiad sy’n ofynnol gan reol 5(13) i’r ceisydd.

(4) Pan fo paragraff (3) yn gymwys i’r cais, rhaid i’r awdurdod ddarparu datganiad o faint o wasanaeth y byddid yn ei drin fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig pe bai’r ceisydd yn gwneud dewisiad i drosglwyddo ei hawliau cronedig o dan Gynllun 1992 i’w aelodaeth arbennig o’r Cynllun hwn o fewn tri mis o’r dyddiad y gwnaeth y cais.

(5) Caiff person sy’n cael datganiad o dan baragraff (2) neu (4) ddewis trosglwyddo ei hawliau cronedig o dan Gynllun 1992 i’w aelodaeth arbennig o’r Cynllun hwn.

(6) Os gwneir y cais o fewn yr amser a bennir ym mharagraff (2) ac y gwneir y dewisiad i drosglwyddo hawliau cronedig o dan Gynllun 1992 yr un pryd â’r dewisiad i dalu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol o dan reol 6A o Ran 11, rhaid trin cyfnod o wasanaeth pensiynadwy cronedig y ceisydd o dan Gynllun 1992 fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig cronedig yn y Cynllun hwn.

(7) Os gwneir y cais o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3), rhaid derbyn gwerth trosglwyddo o dan drefniadau trosglwyddo’r sector cyhoeddus, a rhaid cyfrifo’r cyfnod o wasanaeth pensiynadwy arbennig y bydd hawlogaeth gan yr aelod i’w gyfrif yn unol â’r trefniadau hynny.

(8) Gwneir dewisiad o dan baragraff (5) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod ac mae’n cymryd effaith ar y diwrnod y mae’r awdurdod yn cael yr hysbysiad.

(10) Yn rheol 12 (trosglwyddo hanes pensiwn o un awdurdod Cymreig i un arall), ar ôl “y gwasanaeth pensiynadwy” mewnosoder “neu’r gwasanaeth pensiynadwy arbennig”.

(11) Ar ôl Pennod 5, mewnosoder—

“PENNOD 6

TROSI AELODAETH RHWNG AELODAETH SAFONOL AC AELODAETH ARBENNIG

Trosi aelodaeth o aelodaeth arbennig i aelodaeth safonol

16.—(1) Caiff person sydd â hawlogaeth i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod-ddiffoddwr tân arbennig ac sy’n aelod safonol o’r Cynllun hwn mewn perthynas â gwasanaeth y byddai modd i’r person, fel arall, ei gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig, wneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod am ddatganiad o faint o wasanaeth y byddid yn ei drin fel pe bai wedi cronni pe bai’r person yn trosi ei aelodaeth arbennig yn aelodaeth safonol o’r Cynllun hwn.

(2) Rhaid gwneud unrhyw gais o dan baragraff (1) yr un pryd â chais o dan reol 5A(5) (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig) o Ran 11.

(3) Yr un pryd ag y bydd yr awdurdod yn rhoi’r hysbysiad o dan reol 5A(13) o Ran 11, rhaid i’r awdurdod ddarparu datganiad o’r gwasanaeth ychwanegol y byddid yn ei drin fel gwasanaeth pensiynadwy pe bai’r person yn trosi ei aelodaeth arbennig yn aelodaeth safonol.

(4) At ddiben cyfrifo’r gwasanaeth pensiynadwy y trinnid person fel pe bai wedi ei gronni yn y Cynllun hwn fel aelod safonol pe bai’n trosi ei hawliau cronedig fel aelod-ddiffoddwr tân arbennig, rhaid i’r awdurdod gymhwyso’r ffactorau trosi a nodir yn y tablau yn Atodiad 3 gan gymhwyso’r ffactorau i oedran y person ar 6 Ebrill 2006.

(5) Pan fo’r ceisydd yn gwneud dewisiad ysgrifenedig i drosi aelodaeth arbennig yn aelodaeth safonol, rhaid gwneud y dewisiad hwnnw yr un pryd â’r dewisiad i brynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig o dan baragraffau (1), (3) neu (7) o reol 6A o Ran 11 ac ni chaniateir ei wneud ar unrhyw adeg arall.

(6) Rhaid i awdurdod beidio â derbyn dewisiad person i drosi aelodaeth o aelodaeth arbennig i aelodaeth safonol os byddai swm cyfanredol—

(a)   y gwasanaeth pensiynadwy a drinnir fel pe bai wedi cronni; a

(b)   y gwasanaeth pensiynadwy rhagolygol, gan ragdybio y bydd y person yn parhau’n aelod safonol o’r Cynllun hwn hyd nes cyrhaedda’r oedran ymddeol arferol,

yn fwy na 40 mlynedd erbyn ei ben-blwydd yn 60 oed.

(7) Pan fo’r taliadau sy’n ofynnol gan reol 6A(12) o Ran 11 wedi eu gwneud—

(a)   rhaid ychwanegu’r gwasanaeth pensiynadwy ychwanegol y rhoddwyd hysbysiad ohono gan yr awdurdod o dan baragraff (3) at y gwasanaeth pensiynadwy fel aelod safonol;

(b)   o’r dyddiad yr ychwanegir y gwasanaeth hwnnw gan yr awdurdod ymlaen, bydd yr aelod yn peidio â bod yn aelod-ddiffoddwr tân arbennig.

(8) Gwneir dewisiad o dan baragraff (5) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod ac mae’n cymryd effaith ar y diwrnod y mae’r awdurdod yn cael yr hysbysiad.

Trosi aelodaeth o aelodaeth safonol i aelodaeth arbennig

17.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—

(a) i berson sydd â hawlogaeth i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod-ddiffoddwr tân arbennig, ac sy’n aelod safonol o’r Cynllun hwn;

(b) mewn cysylltiad â gwasanaeth pensiynadwy y byddai gan y person hawlogaeth i’w drin fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig.

(2) Caiff person y mae’r rheol hon yn gymwys iddo wneud cais i’r awdurdod am ddatganiad o faint o wasanaeth y byddai gan y person hawlogaeth i’w drin fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig pe bai’r person yn trosi ei aelodaeth safonol yn aelodaeth arbennig, ac o swm y taliadau a fyddai’n ofynnol gan is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (5).

(3) Rhaid i gais a wneir o dan baragraff (2) gael ei wneud yn ysgrifenedig yr un pryd â chais o dan reol 5A(5) (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig) o Ran 11.

(4) Yr un pryd ag y bydd yr awdurdod yn rhoi’r hysbysiad o dan reol 5A(13) o Ran 11, rhaid i’r awdurdod ddarparu—

(a)   datganiad o faint o wasanaeth y byddid yn ei drin fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig pe bai’r ceisydd yn dewis trosi ei hawliau cronedig fel aelod safonol i’w aelodaeth arbennig;

(b)   datganiad o swm y taliadau sy’n ofynnol gan baragraff (5).

(5) Pan fo’r aelod yn dewis trosglwyddo ei hawliau cronedig fel aelod safonol o’r Cynllun hwn i’w aelodaeth arbennig—

(a)   ni chaiff yr aelod wneud y dewisiad oni fydd yr aelod, yr un pryd, yn gwneud dewisiad i dalu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol o dan reol 6A o Ran 11;

(b)   rhaid i’r aelod dalu swm sy’n cynrychioli’r gwahaniaeth rhwng y cyfraniad pensiwn o dan reol 3(1) o Ran 11, a dalwyd gan yr aelod fel aelod safonol, a’r cyfraniad pensiwn y mae’n ofynnol ei dalu fel aelod arbennig o dan baragraff (1A) o’r rheol honno;

(c)   rhaid i’r aelod dalu llog ar y swm sy’n daladwy o dan is-baragraff (b) yn unol â pharagraff (13);

(ch) rhaid i’r aelod dalu’r symiau hynny yn yr un modd ag y mae’n dewis talu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol o dan reol 6A o Ran 11.

(6) Pan fo’r taliadau sy’n ofynnol gan baragraff (5) wedi eu talu, ac yn ddarostyngedig i baragraff (7), trosir gwasanaeth pensiynadwy’r aelod fel aelod safonol yn wasanaeth pensiynadwy arbennig.

(7) Pan fo gwasanaeth pensiynadwy aelod yn cynnwys cyfnod (“y cyfnod a drosglwyddwyd i mewn”) y mae hawlogaeth gan yr aelod i’w gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy yn unol â rheolau 10 ac 11 o’r Rhan hon, trosir y cyfnod a drosglwyddwyd i mewn yn wasanaeth pensiynadwy arbennig yn unol â chanllawiau a thablau a ddarperir gan Actiwari’r Cynllun at ddibenion y paragraff hwn.

(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), pan fo rheol 6A(3) (dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig) o Ran 11 yn gymwys, ac nad yw’r aelod, o fewn y cyfnod a bennir yn y paragraff hwnnw, yn talu cyfandaliad cyfwerth â balans y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(b) ac a ganfuwyd yn unol â thablau a ddarparwyd gan Actiwari’r Cynllun, trinnir y cyfnod o wasanaeth fel aelod safonol a drosir yn wasanaeth pensiynadwy arbennig fel pe bai'r cyfnod a ganfyddir yn unol â’r fformiwla—

A x (B/C)

pan—

A yw’r cyfnod o wasanaeth fel aelod safonol y dewisodd yr aelod ei drosi,

B yw’r cyfnod o’r gwasanaeth hwnnw y gwnaed y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(b) mewn cysylltiad ag ef, ac

C yw’r cyfnod o’r gwasanaeth hwnnw y byddid wedi gwneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(b) mewn perthynas ag ef yn unol â dewisiad yr aelod.

(9) Os bydd farw’r aelod arbennig cyn bo’r taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(b) wedi ei dalu’n llawn, trinnir y taliad hwnnw fel pe bai wedi ei dalu’n llawn a bydd y cyfnod o wasanaeth fel aelod safonol y dewisodd yr aelod ei drosi yn cael ei drin fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig.

(10) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo gwasanaeth pensiynadwy aelod arbennig fel aelod safonol wedi ei drosi yn wasanaeth pensiynadwy arbennig yn unol â’r rheol hon ac—

(a)   pan fo’n ofynnol i’r aelod wneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(b) drwy gyfandaliad, nid yw’r cyfandaliad wedi ei dalu o fewn chwe mis ar ôl y dewisiad o dan baragraff (5) neu’r fath gyfnod hwy y caiff yr awdurdod hysbysu’r person yn ysgrifenedig amdano; neu

(b)   pan fo’n ofynnol i’r aelod wneud y taliad drwy gyfraniad cyfnodol, nid yw tri neu ragor o gyfraniadau cyfnodol yn olynol wedi eu talu ac mae’r swm yn parhau i fod yn ddyledus.

(11) Pan fo paragraff (10) yn gymwys o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (10)(a)—

(a)   trinnir y dewisiad i drosi fel pe bai wedi ei ddirymu; a

(b)   rhaid credydu unrhyw gyfraniadau y mae’r aelod wedi eu talu yn erbyn y cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol sy’n daladwy gan yr aelod.

(12) Pan fo paragraff (10) yn gymwys o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (10)(b)—

(a)   rhaid i’r awdurdod ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i’r aelod dalu’r swm sy’n ddyledus o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad i’r aelod, ac ailgychwyn y cyfraniadau cyfnodol;

(b)   os na thelir y swm sy’n ddyledus o fewn y cyfnod hwnnw, neu os na wneir cyfraniad cyfnodol dilynol o fewn 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y mae’n ddyledus, trinnir y dewisiad i drosi fel pe bai wedi ei ddirymu; ac

(c)   rhaid credydu unrhyw gyfraniadau y mae’r aelod wedi eu talu yn erbyn y cyfraniadau cyfnod arbennig gorfodol sy’n daladwy gan yr aelod.

(13) Cyfrifir llog ar y swm y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(b) (“y swm perthnasol”) fel a ganlyn—

(a)   at ddibenion y paragraff hwn, rhagdybir bod y cyfraniadau pensiwn sy’n ddyledus o dan reol 3(1A) o Ran 11 (cyfraniadau pensiwn) yn daladwy yr un pryd â’r cyfraniadau a dalwyd gan yr aelod o dan reol 3(1) o’r Rhan honno;

(b)   mae llog yn dechrau cronni ar y swm perthnasol o ddechrau’r cyfnod o wasanaeth pensiynadwy sydd i’w drin fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig yn unol â’r rheol hon ac sy’n peidio â chronni ar y dyddiad cyfrifo;

(c)   pan fo’r swm perthnasol i’w dalu drwy gyfandaliad, cyfrifir y llog drwy gymhwyso’r gyfradd llog gynt i’r swm hwnnw gyda’r adlog misol rhwng y mis y byddai pob cyfraniad o dan reol 3(1A) o Ran 11 wedi ei wneud yn unol ag is-baragraff (a) hyd y dyddiad cyfrifo;

(ch) pan fo’r swm perthnasol i’w dalu drwy gyfraniad cyfnodol—

                       (i)  cyfrifir y llog yn yr un modd ag ar gyfer cyfandaliad o dan is-baragraff (c);

                      (ii)  caiff swm y llog sy’n daladwy ei addasu wedyn yn unol â thablau a ddarperir gan Actiwari’r Cynllun er mwyn caniatáu ar gyfer llog ar gyfradd llog y dyfodol mewn perthynas â’r cyfnod o’r dyddiad cyfrifo hyd at y dyddiad y telir y cyfraniad, er mwyn diwallu atebolrwydd dros gyfnod o ddeng mlynedd;

(d)   at ddiben y rheol hon—

ystyr “cyfradd llog y dyfodol” (“future interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth ag 1.5% plws mynegai arenillion Gilt 10 mlynedd y DU Actiwariaid FTSE llai cyfartaledd mynegai Gilt 5 i 15 mlynedd cysylltiedig â mynegai y DU Actiwariaid FTSE gyda chyfraddau chwyddiant tybiedig o 0% a 5%;

ystyr “cyfradd llog gynt” (“past interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth â’r llog a oedd ar gael ar y diweddaraf o’r tystysgrifau cynilo llog sefydlog pum mlynedd gan y Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sydd ar gael ar y 15fed diwrnod o bob mis a fyddai wedi bod yn gymwys i’r cyfnod o dan sylw;

ystyr “dyddiad cyfrifo” (“calculation date”) yw—

                       (i)  yn achos cyfraniad ar ffurf cyfandaliad, y dyddiad y telir y cyfandaliad; a

                      (ii)  yn achos talu’r swm perthnasol drwy gyfraniad cyfnodol, y dyddiad pan ymunodd yr aelod â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig.

(14) Rhaid gwneud dewisiad o dan baragraff (5) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod ac mae’n cymryd effaith ar y diwrnod y mae’r awdurdod yn cael yr hysbysiad.

Trosi aelodaeth o aelodaeth safonol i aelodaeth arbennig – aelodau pensiynwyr arbennig

18.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—

(a)   i berson sydd â hawlogaeth i fod yn aelod-bensiynwr arbennig ac sy’n cael pensiwn arferol, pensiwn afiechyd haen uwch neu bensiwn afiechyd haen is;

(b)   mewn cysylltiad â gwasanaeth pensiynadwy y byddai gan y person hawlogaeth i’w drin fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig.

(2) Caiff person y mae’r rheol hon yn gymwys iddo wneud cais i’r awdurdod am ddatganiad o’r swm o wasanaeth pensiynadwy y byddai gan yr aelod hawlogaeth i’w drin fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig a swm y taliadau sy’n ofynnol gan  is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (5).

(3) Rhaid i gais a wneir o dan baragraff (2) gael ei wneud yn ysgrifenedig yr un pryd â chais o dan reol 5A(5) (prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig) o Ran 11.

(4) Yr un pryd ag y mae’r awdurdod yn rhoi’r hysbysiad o dan reol 5A(13) o Ran 11, rhaid i’r awdurdod ddarparu—

(a)   datganiad o swm y gwasanaeth pensiynadwy y caniateir ei drin fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig; a

(b)   datganiad o swm y taliadau sy’n ofynnol gan baragraff (5).

(5) Pan fo’r aelod yn dewis cael gwasanaeth pensiynadwy wedi ei drin fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig—

(a)   dim ond ar yr un pryd ag y mae’r aelod yn gwneud dewisiad i dalu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol o dan reol 6A o Ran 11 y caiff yr aelod wneud y dewisiad;

(b)   rhaid i’r aelod dalu swm sy’n cynrychioli’r gwahaniaeth rhwng y cyfraniad pensiwn o dan reol 3(1) o Ran 11 y mae’r aelod wedi ei dalu fel aelod safonol a’r cyfraniad pensiwn sy’n ofynnol i gael ei dalu fel aelod arbennig o dan baragraff (1A) o’r rheol honno;

(c)   rhaid i’r aelod dalu llog ar y swm sy’n daladwy o dan is-baragraff (b) yn unol â pharagraff (12);

(ch) rhaid i’r aelod dalu’r swm hwnnw drwy gyfandaliad.

(6) Pan fo’r taliad sy’n ofynnol gan baragraff (5) wedi ei dalu, ac yn ddarostyngedig i baragraff (7)—

(a)   rhaid trin gwasanaeth pensiynadwy’r aelod fel aelod safonol fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig;

(b)   rhaid i’r aelod barhau i gael ei bensiwn arferol neu ei bensiwn afiechyd mewn cysylltiad â gwasanaeth pensiynadwy’r aelod fel aelod safonol;

(c)   rhaid i’r aelod, yn ogystal â hynny, gael ei bensiwn arferol aelod arbennig neu ei bensiwn afiechyd mewn cysylltiad â gwasanaeth pensiynadwy arbennig yr aelod fel aelod arbennig ond mae pensiwn arferol neu bensiwn afiechyd yr aelod arbennig mewn cysylltiad â gwasanaeth pensiynadwy arbennig yr aelod wedi ei leihau yn unol â thablau a gynhyrchir gan Actiwari’r Cynllun fel nad yw cyfanswm y pensiwn y mae’r aelod yn ei gael yn unol ag is-baragraff (b) a’r is-baragraff hwn yn fwy na’r swm y byddai’r aelod wedi ei gael fel aelod arbennig os—

                       (i)  na fyddai’r aelod wedi bod yn aelod arferol o’r Cynllun; a

                      (ii)  y trinnir holl wasanaeth yr aelod o ddechrau’r cyfnod arbennig gorfodol hyd at y dyddiad y daw ei bensiwn arferol aelod arbennig neu ei bensiwn afiechyd, yn ôl fel y digwydd, yn daladwy ac sy’n gymwys i gael ei drin fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig, fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig.

(7) Pan fo gwasanaeth pensiynadwy aelod yn cynnwys cyfnod (“y cyfnod a drosglwyddwyd i mewn”) y mae hawlogaeth gan y person i’w gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy yn unol â rheolau 10 ac 11 o’r Rhan hon, trosir y cyfnod a drosglwyddwyd i mewn yn wasanaeth pensiynadwy arbennig yn unol â chanllawiau a thablau a ddarperir gan Actiwari’r Cynllun at ddibenion y paragraff hwn.

(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), pan fo rheol 6A(5) neu (9) (dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig) o Ran 11 yn gymwys, ac nad yw’r aelod, o fewn y cyfnod a bennir yn y paragraff hwnnw, yn talu cyfandaliad cyfwerth â balans y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(b) ac a ganfuwyd yn unol â thablau a ddarperir gan Actiwari’r Cynllun, trinnir y cyfnod o wasanaeth fel aelod safonol a drosir yn wasanaeth pensiynadwy arbennig fel pe bai'r cyfnod a ganfyddir yn unol â’r fformiwla—

A x (B/C)

pan—

A yw’r cyfnod o wasanaeth fel aelod safonol y dewisodd yr aelod ei drosi,

B yw’r cyfnod o’r gwasanaeth hwnnw y gwnaed y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(b) mewn perthynas ag ef, ac

C yw’r cyfnod o’r gwasanaeth hwnnw y byddid wedi gwneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(b) mewn perthynas ag ef yn unol â’r dewisiad.

(9) Os bydd farw’r aelod arbennig cyn bo’r taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(b) wedi ei dalu’n llawn, rhaid trin y taliad hwnnw fel pe bai wedi ei dalu’n llawn a rhaid trin y cyfnod o wasanaeth fel aelod safonol y dewisodd yr aelod ei drosi fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig.

(10) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)   pan fo gwasanaeth pensiynadwy aelod fel aelod safonol wedi ei drosi i wasanaeth pensiynadwy arbennig yn unol â’r rheol hon; a

(b)   pan na fo’r cyfandaliad sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r swm sy’n daladwy yn unol â pharagraff (5)(b) wedi ei dalu o fewn chwe mis o’r dewisiad o dan baragraff (5) neu’r fath gyfnod hwy y caiff yr awdurdod hysbysu’r person yn ysgrifenedig amdano.

(11) Pan fo paragraff (10) yn gymwys—

(a)   rhaid trin y dewisiad i drosi fel pe bai wedi ei ddirymu; a

(b)   rhaid credydu unrhyw swm y mae’r aelod wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r swm sy’n ddyledus o dan baragraff (5)(b) yn erbyn y cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol sy’n daladwy gan yr aelod.

(12) Cyfrifir llog ar y swm y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(b) (“y swm perthnasol”) fel a ganlyn—

(a)   at ddibenion y paragraff hwn, rhagdybir bod y cyfraniadau pensiwn sy’n ddyledus o dan reol 3(1A) o Ran 11 (cyfraniadau pensiwn) yn daladwy ar yr un pryd â’r cyfraniadau a dalwyd gan yr aelod o dan reol 3(1) o’r Rhan honno;

(b)   mae llog yn dechrau cronni ar y swm perthnasol o ddechrau’r cyfnod o wasanaeth pensiynadwy sydd i’w drin fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig yn unol â’r rheol hon ac mae’n peidio cronni ar y dyddiad cyfrifo;

(c)   pan fo’r swm perthnasol i gael ei dalu drwy gyfandaliad, cyfrifir llog drwy gymhwyso’r gyfradd llog gynt i’r swm hwnnw gyda’r adlog misol rhwng y mis y byddai pob cyfraniad o dan reol 3(1A) o Ran 11 wedi ei wneud yn unol ag is-baragraff (a) hyd y dyddiad cyfrifo;

(ch) pan fo’r swm perthnasol i’w dalu drwy gyfraniad cyfnodol—

                       (i)  cyfrifir llog yn yr un modd ag ar gyfer cyfandaliad o dan is-baragraff (c);

                      (ii)  caiff swm y llog sy’n daladwy ei addasu wedyn yn unol â thablau a ddarperir gan Actiwari’r Cynllun er mwyn caniatáu ar gyfer llog ar gyfradd llog y dyfodol mewn perthynas â’r cyfnod o’r dyddiad cyfrifo hyd at y dyddiad y telir y cyfraniad, er mwyn diwallu atebolrwydd dros gyfnod o ddeng mlynedd;

(d)   at ddiben y rheol hon—

ystyr “cyfradd llog y dyfodol” (“future interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth ag 1.5% plws mynegai arenillion Gilt 10 mlynedd y DU Actiwariaid FTSE llai cyfartaledd mynegai Gilt 5 i 15 mlynedd cysylltiedig â mynegai y DU Actiwariaid FTSE gyda chyfraddau chwyddiant tybiedig o 0% a 5%;

ystyr “cyfradd llog gynt” (“past interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth â’r llog a oedd ar gael ar y diweddaraf o’r tystysgrifau cynilo llog sefydlog pum mlynedd gan y Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sydd ar gael ar y 15fed diwrnod o bob mis a fyddai wedi bod yn gymwys i’r cyfnod o dan sylw;

ystyr “dyddiad cyfrifo” (“calculation date”) yw—

                       (i)  yn achos cyfraniad ar ffurf cyfandaliad, y dyddiad y telir y cyfandaliad; a

                      (ii)  yn achos talu’r swm perthnasol drwy gyfraniad cyfnodol, y dyddiad pan ymunodd yr aelod â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig.

(13) Rhaid i ddewisiad o dan baragraff (5) gael ei wneud drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod ac mae’n cymryd effaith ar y diwrnod y mae’r awdurdod yn cael yr hysbysiad.

Diwygio Rhan 13 (cronfa bensiwn y diffoddwyr tân)

12. Yn Rhan 13 (Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân), yn rheol 2 (taliadau a throsglwyddiadau i mewn i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân), ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

(11) Pan fo awdurdod yn arfer ei ddisgresiwn i beidio ag atal neu leihau’r cyfan neu unrhyw ran o bensiwn o dan reol 3 (atal pensiwn yn ystod cyfnod o wasanaeth fel diffoddwr tân) o Ran 9 (adolygu, atal a fforffedu dyfarndaliadau), rhaid i’r awdurdod, yn y flwyddyn ariannol y peidir ag atal neu leihau taliad ynddi, drosglwyddo i mewn i’r CBDT swm sy’n hafal i swm yr ataliad neu’r lleihad y gellid bod wedi ei wneud yn y pensiwn a dalwyd i’r person hwnnw yn ystod y flwyddyn ariannol honno.”

Diwygio Rhan 14 (talu dyfarndaliadau)

13.—(1) Mae Rhan 14 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheol 1 (yr awdurdodau sy’n gyfrifol am dalu dyfarndaliadau)—

(a)     ym mharagraff (1) yn lle “Mae dyfarndal” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae dyfarndal”;

(b)     ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Mae dyfarndal sy’n daladwy i aelod arbennig neu mewn cysylltiad ag ef oherwydd bod yr aelod wedi ei gyflogi fel diffoddwr tân wrth gefn yn daladwy gan yr awdurdod a oedd yn cyflogi’r aelod, neu, yn achos aelod arbennig y trinnir ei gontractau cyflogaeth fel diffoddwr tân wrth gefn fel un gyflogaeth yn unol â rheol 4(2) o’r Rhan hon, yr awdurdod a gyflogodd yr aelod ddiwethaf.

(3) Yn rheol 4 (pensiynau o dan fwy nag un contract cyflogaeth)—

(a)     ailrifer y paragraff presennol fel “(1)”;

(b)     ar y diwedd mewnosoder—

“(2) Pan fo person yn aelod arbennig o’r Cynllun hwn, neu’n gymwys i fod yn aelod arbennig o’r Cynllun hwn, mewn cysylltiad â mwy nag un contract cyflogaeth (pa un ai gyda’r un awdurdod neu wahanol awdurdodau) caiff y person ddewis trin y cyflogaethau hynny fel un gyflogaeth.

(3) Rhaid i ddewisiad o dan baragraff (2) gael ei wneud drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod a gyflogodd y person ddiwethaf ar yr un pryd â’r cais o dan reol 5A(5) o Ran 11.


Atodiad ZA – cyfran gymudedig: aelodau arbennig

14. O flaen Atodiad A1 mewnosoder—

“Atodiad ZA Rhan 3, rheol 9(2A) a Rhan 6, rheol 3(7B)

Cyfran gymudedig: aelodau arbennig

 

Blynyddoedd

Oedran mewn blynyddoedd a misoedd cyflawn ar ddiwrnod cychwyn y pensiwn

 

0

1

2

3

4

5

6

7

8

9

10

11

Islaw

50

23.4

50

22.4

22.3

22.3

22.3

22.3

22.2

22.2

22.2

22.2

22.1

22.1

22.1

51

22.1

22.0

22.0

22.0

22.0

21.9

21.9

21.9

21.9

21.8

21.8

21.8

52

21.8

21.7

21.7

21.7

21.7

21.6

21.6

21.6

21.6

21.5

21.5

21.5

53

21.5

21.4

21.4

21.4

21.3

21.3

21.3

21.3

21.2

21.2

21.2

21.1

54

21.1

21.1

21.1

21.1

21.0

21.0

21.0

20.9

20.9

20.9

20.9

20.8

55

20.8

20.8

20.8

20.8

20.7

20.7

20.6

20.6

20.6

20.5

20.5

20.5

56

20.4

20.4

20.4

20.4

20.3

20.3

20.3

20.2

20.2

20.2

20.1

20.1

57

20.1

20.0

20.0

20.0

19.9

19.9

19.9

19.8

19.8

19.8

19.7

19.7

58

19.7

19.6

19.6

19.6

19.5

19.5

19.5

19.4

19.4

19.4

19.3

19.3

59

19.3

19.2

19.2

19.2

19.1

19.1

19.1

19.0

19.0

19.0

18.9

18.9

60

18.9

18.8

18.8

18.8

18.7

18.7

18.6

18.6

18.6

18.5

18.5

18.5

61

18.4

18.4

18.4

18.4

18.3

18.2

18.2

18.2

18.1

18.1

18.1

18.0

62

18.0

18.0

17.9

17.9

17.8

17.8

17.8

17.7

17.7

17.7

17.6

17.6

63

17.5

17.5

17.5

17.5

17.4

17.4

17.3

17.3

17.2

17.2

17.2

17.1

64

17.1

17.1

17.0

17.0

16.9

16.9

16.9

16.8

16.8

16.8

16.7

16.7

65

16.6

 


Diwygio Atodiad A1 (cyfraniadau pensiwn)

15.(1) Mae Atodiad A1 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn lle paragraff 5 rhodder—

5. Nid yw tâl pensiynadwy yng ngholofn gyntaf y Tabl isod yn cynnwys taliadau a wnaed i aelod-ddiffoddwr tân gan yr awdurdod mewn cysylltiad ag unrhyw fuddion sy’n bensiynadwy o dan reol 7B(1) o Ran 3, ond rhaid cynnwys y taliadau hynny yn nhâl pensiynadwy yr aelod at ddibenion cymhwyso’r gyfradd a bennir yn yr ail golofn.

Atodiad AB1 – cyfraniadau pensiwn ar gyfer aelodau arbennig

16. Ar ôl Atodiad A1, mewnosoder—

“Atodiad AB1 Rhan 11, rheol 3(1A)

Cyfraniadau pensiwn ar gyfer aelodau arbennig

1. Cyfradd y cyfraniad pensiwn a grybwyllir yn rheol 3(1A) o Ran 11 yw’r gyfradd a bennir yn y Tabl isod drwy gyfeirio at swm tâl pensiynadwy’r diffoddwr tân arbennig yng ngholofn gyntaf y Tabl a thrwy gyfeirio at y cyfnod priodol.

2. Swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân wrth gefn, at ddiben colofn gyntaf y Tabl, yw tâl cyfeirio’r diffoddwr tân hwnnw.

3. Swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd rhan-amser, at ddiben colofn gyntaf y Tabl yw, swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd amser-cyflawn sydd â’i rôl a hyd ei wasanaeth yn rhai cyfatebol.

4. Os digwyddodd newid perthnasol a pharhaol yn nhelerau ac amodau cyflogaeth aelod-ddiffoddwr tân, sy’n effeithio ar ei dâl pensiynadwy, cyfrifir y tâl pensiynadwy o ddyddiad y newid hwnnw ymlaen drwy gyfeirio at y swm diwygiedig.

5. Mewn perthynas ag unrhyw gyfnod cyn 1 Gorffennaf 2013, nid yw’r tâl pensiynadwy yng ngholofn gyntaf y Tabl isod yn cynnwys unrhyw daliadau a wneir gan yr awdurdod i aelod-ddiffoddwr tân arbennig mewn cysylltiad â’i ddatblygiad proffesiynol parhaus, ond rhaid i’r taliadau hynny gael eu cynnwys yn nhâl pensiynadwy’r aelod at ddibenion cymhwyso’r gyfradd a bennir yn yr ail neu’r drydedd golofn, yn ôl fel y digwydd.

6. Mewn perthynas ag unrhyw gyfnod sy’n dechrau ar 1 Gorffennaf 2013 neu ar ôl hynny, nid yw’r tâl pensiynadwy yng ngholofn gyntaf y Tabl isod yn cynnwys unrhyw daliadau a wneir i aelod-ddiffoddwr tân arbennig gan yr awdurdod mewn cysylltiad ag unrhyw fuddion sy’n bensiynadwy o dan reol 7B(1) o Ran 3, ond rhaid cynnwys y taliadau hynny yn nhâl pensiynadwy’r aelod at ddibenion cymhwyso’r gyfradd a bennir yn yr ail neu’r drydedd golofn, yn ôl fel y digwydd.

 

Tâl pensiynadwy

Cyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2012 hyd at 31 Mawrth 2013 (canran y tâl pensiynadwy)

Cyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2013 hyd at 31 Mawrth 2014 (canran y tâl pensiynadwy)

Cyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2014 (canran y tâl pensiynadwy)

Hyd at a chan gynnwys £15,000

11.0%

11.0%

11.0%

Dros £15,000 a hyd at a chan gynnwys £21,000

11.6%

11.9%

12.2%

Dros £21,000 a hyd at a chan gynnwys £30,000

11.6%

12.9%

14.2%

Dros £30,000 a hyd at a chan gynnwys £40,000

11.7%

13.2%

14.7%

Dros £40,000 a hyd at a chan gynnwys £50,000

11.8%

13.5%

15.2%

Dros £50,000 a hyd at a chan gynnwys £60,000

11.9%

13.7%

15.5%

Dros £60,000 a hyd at a chan gynnwys £100,000

12.2%

14.1%

16.0%

Dros £100,000 a hyd at a chan gynnwys £120,000

12.5%

14.5%

16.5%

Dros £120,000

13.0%

15.0%

17.0%

Diwygio Atodiad 1 (pensiynau afiechyd)

17. Yn Atodiad 1, ar ôl paragraff 3 mewnosoder—

4. Pan fo hawlogaeth gan aelod gohiriedig arbennig neu aelod-bensiynwr arbennig i gael dyfarndal ôl-weithredol yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd, mae paragraff 2 yn gymwys os rhoddir “45” yn lle “60”, “30” yn lle “40” a “gwasanaeth pensiynadwy arbennig” yn lle “gwasanaeth pensiynadwy”.

5.—(1) Pan fo’r person sydd â hawlogaeth i gael pensiwn afiechyd haen is neu bensiwn afiechyd haen uwch yn aelod arbennig, nad yw hefyd yn aelod safonol, mae paragraffau 1 a 2 yn gymwys os rhoddir “45” yn lle “60”, “30” yn lle “40” a “gwasanaeth pensiynadwy arbennig” yn lle “gwasanaeth pensiynadwy”.

(2) Pan fo person y mae is-baragraff (1) o’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn ddiffoddwr tân wrth gefn, mae is-baragraff (3) o baragraff 1 yn gymwys os mewnosodir y geiriau “yn ystod ei wasanaeth pensiynadwy arbennig” ar ôl “y diffoddwr tân”.

6. Yn achos person a ymunodd â’r Cynllun hwn fel aelod-bensiynwr arbennig neu aelod gohiriedig arbennig, ei dâl pensiynadwy terfynol yw’r swm a ddyfernir gan yr awdurdod ac a nodir yn yr hysbysiad a roddir o dan reol 5A(13) o Ran 11. 

Diwygio Atodiad 2 (apelau i fwrdd canolwyr meddygol)

18.—(1) Yn Atodiad 2—

(a)     yn is-baragraff (3)(a) o baragraff 4, yn lle “ddymunol er mwyn galluogi’r bwrdd i ddyfarnu’r apêl” rhodder “ddymunol er mwyn darparu digon o wybodaeth i’r bwrdd i’w alluogi i ddyfarnu’r apêl”;

(b)     ar ôl paragraff 8 mewnosoder—

8A.—(1) Pan fo’r partïon wedi cael copi o’r adroddiad a gyflenwyd o dan baragraff 8 a’r partïon yn cytuno bod y bwrdd wedi gwneud camgymeriad ynglŷn â ffaith, sydd wedi dylanwadu mewn modd perthnasol ar benderfyniad y bwrdd, rhaid i’r awdurdod, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl cael yr adroddiad—

(a)   cyflenwi dau gopi i Weinidogion Cymru o ddatganiad a gytunwyd rhwng y partïon, sy’n nodi

                       (i)  y camgymeriad ffeithiol,

                      (ii)  y ffaith gywir, a

(b)   gwahodd y bwrdd i ailystyried ei benderfyniad.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 14 diwrnod ar ôl cael y datganiad, gyflenwi copi ohono i’r bwrdd.

(3) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael y datganiad, rhaid i’r bwrdd ailystyried ei benderfyniad.

(4) O fewn 14 diwrnod ar ôl ailystyried felly, rhaid i’r bwrdd—

(a)   rhoi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, i’r perwyl ei fod wedi cadarnhau neu wedi newid ei benderfyniad (yn ôl fel y digwydd), a

(b)   os newidir ei benderfyniad, cyflenwi adroddiad ysgrifenedig o’i benderfyniad diwygiedig i Weinidogion Cymru.

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflenwi copi i’r apelydd ac i’r awdurdod o’r hysbysiad ysgrifenedig sy’n cadarnhau penderfyniad y bwrdd, neu gopi o’r adroddiad ysgrifenedig o benderfyniad diwygiedig y bwrdd (yn ôl fel y digwydd).;

(c)     yn lle is-baragraff (3) o baragraff 10 rhodder—

(3) Pan fo—

(a)   yr apelydd yn rhoi hysbysiad i’r bwrdd—

                       (i)  yn tynnu’r apêl yn ôl;

                      (ii)  yn gofyn am ddileu, gohirio neu oedi’r dyddiad a bennwyd ar gyfer cyfweliad neu archwiliad meddygol o dan baragraff 6(2), a hynny

gan roi llai na 22 diwrnod gwaith o rybudd cyn y dyddiad a bennwyd o dan baragraff6(2), neu

(b)   gweithredoedd neu anweithiau’r apelydd yn peri bod y bwrdd yn dileu, yn gohirio neu’n oedi rywfodd arall y dyddiad a bennwyd o dan baragraff 6(2), a hynny lai na 22 diwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd felly,

caiff yr awdurdod ei gwneud yn ofynnol bod yr apelydd yn talu iddynt y cyfryw swm, na chaiff fod yn fwy na chyfanswm y ffioedd a’r lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd o dan baragraff 9(1), a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod.

Atodiad 3 – trosi aelodaeth o aelodaeth arbennig i aelodaeth safonol

19. Ar ôl Atodiad 2 mewnosoder yr hyn a ganlyn—

                  Atodiad 3 Rhan 12, rheol 16(4)

Trosi aelodaeth o aelodaeth arbennig i aelodaeth safonol

Tabl A

Ffactorau trosi

 

Oedran wrth ymuno

55 oed neu’n iau

56 oed

57 oed

58 oed

59 oed

60 oed

25 ac iau

140%

139%

138%

136%

135%

133%

26

138%

139%

138%

136%

135%

133%

27

136%

137%

138%

136%

135%

133%

28

133%

135%

136%

136%

135%

133%

29

130%

132%

133%

134%

135%

133%

30

127%

129%

130%

132%

133%

133%

31

124%

126%

128%

129%

130%

131%

32

120%

123%

125%

126%

127%

129%

33

116%

119%

121%

123%

125%

126%

34

112%

115%

118%

120%

122%

123%

35

107%

111%

114%

116%

118%

120%

36

107%

106%

109%

112%

115%

117%

37

107%

106%

105%

108%

111%

113%

38

107%

106%

105%

103%

106%

109%

39

107%

106%

105%

103%

102%

105%

40 a hŷn

107%

106%

105%

103%

102%

100%

 

Tabl B

Ffactorau trosi ar gyfer trigeinfed rannau ychwanegol

 

 

55 oed neu’n iau

56 oed

57 oed

58 oed

59 oed

60 oed

 

107%

106%

105%

103%

102%

100%

 



([1])   2004 p. 21. Mae pwerau o dan adrannau 34 a 60 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn awr wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Cyn hynny roeddent wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru.

([2])   O.S. 2007/1072 (Cy. 110) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2009/1225 (Cy. 108), 2010/234, 2012/972 (Cy. 127), 2013/735 (Cy. 87), 2013/1577 (Cy. 145) a 2014/523 (Cy. 64).

([3])   2004 p. 12.

([4])   Gweler rheol 6B(10) o Ran 11 am ddyddiad pan fydd dewisiad yn cael effaith.